Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal ymchwiliad ar ôl i garthffosiaeth lifo i Afon Rhydeg ger Dinbych-y-pysgod a allai fod yn effeithio ar ansawdd y dŵr ar draethau Dinbych-y-pysgod a Phenalun.
Yn ôl CNC, roedd Dŵr Cymru wedi rhoi gwybod iddyn nhw ddydd Llun (1 Gorffennaf) bod pibell wedi byrstio ger Dinbych-y-pysgod. Roedd hyn wedi arwain at garthffosiaeth yn mynd i mewn i Afon Rhydeg, sy’n llifo i’r môr ar Draeth y De yn Ninbych-y-pysgod.
Dywed CNC bod y sefyllfa o dan reolaeth a bod arwyddion wedi cael eu gosod ar y traethau yn rhybuddio am y risg posib i nofwyr.
Mae CNC wedi cyhoeddi rhybudd ar gyfer y traethau yma:
- Traeth y De Dinbych-y-pysgod
- Traeth y Castell
- Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod
- Traeth Penalun
‘Arwyddion ar y traethau’
Dywedodd Andrea Winterton, Rheolwr ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae Dŵr Cymru wedi rhoi gwybod i ni am bibell ymgodol sydd wedi byrstio ger Dinbych-y-pysgod sydd wedi arwain at garthffosiaeth yn mynd i mewn i Afon Rhydeg.
“Mae’r bibell ymgodol wedi’i hynysu felly ni ddylai fod unrhyw lygredd pellach i’r afon o’r bibell.
“Oherwydd y potensial i’r llygredd effeithio ar y dyfroedd ymdrochi i lawr yr afon, rydym wedi datgan sefyllfa annormal ac wedi hysbysu Cyngor Sir Penfro a fydd yn gosod arwyddion ar y traethau i rybuddio pobl o’r risg llygredd posib.”
‘Asesu’r sefyllfa’
Dywedodd Nathan Miles, Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro: “Mae swyddogion o Dîm Rheoli Llygredd y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn cysylltu â Dŵr Cymru ar ôl cael gwybod am y digwyddiad hwn.
“Fel sy’n ofynnol yn sgil y datganiad o sefyllfa annormal, bydd y Cyngor yn gosod arwyddion ar y traethau a allai gael eu heffeithio, sef Penalun a thraethau’r Gogledd, y De a’r Castell yn Ninbych-y-pysgod fore Mawrth.
“Rydym yn deall bod y gollyngiad dan reolaeth a bydd Swyddogion yn parhau i asesu’r sefyllfa ochr yn ochr â CNC wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.”