Mae yna brinder o fandiau Cymraeg yng Nghaerdydd a gweledigaeth trefnwyr Tafwyl, fel rhan o weithgareddau Menter Caerdydd, yw cynnal gweithdai mewn ysgolion i greu bandiau newydd.

Eleni y tiwtoriaid sydd wedi bod yn cynnal y gweithdai yw Mei Gwynedd, Mari Mathias, Miriam Isaac, a Lewys Meredydd.

Bydd y bandiau ifanc yn cael y cyfle i arddangos eu talent yn y gig ieuenctid a fydd yn cael ei gynnal ar nos Iau, Gorffennaf 11 yng Nghlwb Ifor Bach.

Ers 2017, mae Menter Caerdydd wedi bod yn cynnal gweithdai yn ysgolion Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg ymhlith pobl ifanc.

Y grwp Ble?

‘Hybu creadigrwydd’

Dywed Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, bod cynnal gweithdai o’r fath yn hynod o bwysig.

“Mae rhaglen ‘Bandiau yn Cyflwyno’ yn fenter arbennig i hybu creadigrwydd ymhlith pobl ifanc. Rydym yn falch iawn o lwyddiant ‘Ble?’ a ‘Taran’, dau fand sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun.

“Mae’r ddau fand yn brysur yn gwneud enw iddyn nhw eu hunain yn y sin roc Gymraeg – y ddau wedi perfformio yng Ngŵyl Triban Eisteddfod yr Urdd eleni.

“Rwy’n falch fod Tafwyl yn parhau i fod yn blatfform hollbwysig ar gyfer hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ac yn ymroddedig i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent. Gyda mwy o fandiau ifanc yn cael eu creu a’u cefnogi, mae dyfodol cerddoriaeth Gymraeg yn disgleirio’n ddisgleiriach nag erioed.”

Dadleoli

‘Ddim yn bodoli heb y prosiect yma’

Ymhlith y bandiau sydd wedi elwa o’r gweithdai yn y gorffennol yw ‘Dadleoli’ – band sydd wedi parhau i wneud cerddoriaeth ac sydd bellach wedi rhyddhau pum sengl.

Wrth fyfyrio ar eu taith, dywedodd aelod o ‘Dadleoli’: “Fyddai Dadleoli ddim yn bodoli heb y prosiect arbennig yma. Fe aethom o fod yn griw o fechgyn gyda breuddwyd, i fod yn fand sy’n agor prif lwyfan Maes B eleni.

“Rydym mor ddiolchgar ein bod ni wedi cael bod yn rhan o’r gwaith gwych mae Menter Caerdydd yn ei wneud ac rydym yn dymuno’n dda i bob un o’r bandiau sy’n dod trwy’r prosiect eleni.”

Mae cryn edrych ymlaen at berfformiadau’r bandiau ifanc yn y Gig Ieuenctid ar y nos Iau cyn Tafwyl.

Bydd y gig yn digwydd ar nos Iau, 11 Gorffennaf yng Nghlwb Ifor Bach – yn dechrau am 7:30pm ac yn gorffen 10:30pm.

Gallwch archebu tocynnau am ddim trwy wefan Menter Caerdydd.