Mae Aelod o’r Senedd wedi galw ar Lywodraeth nesa’r Deyrnas Unedig i roi’r gorau, o’r diwedd, i “ddwyn” pensiynau gweithwyr dur, yn dilyn ymgyrch tros gyfiawnder sydd wedi para dau ddegawd.

Dywed Rhys ab Owen fod staff Allied Steel and Wire (ASW) yng Nghaerdydd wedi colli eu pensiynau pan aeth y cwmni i’r wal yn 2002, gan achosi i filoedd o bobol fod yn ddiwaith.

“Roedd hyn yn golygu nad oedd bellach yn ymwneud â thegwch, na’r hyn oedd yn ddyledus i bensiynwyr, ond yn hytrach beth bynnag roedd y cynllun yn gallu ei dalu allan,” meddai wrth arwain dadl yn y Senedd.

“Dirwyn i ben yw un term ar ei gyfer – term addas, efallai – term arall yw ’dwyn pensiynau’, a dw i’n credu bod hwnnw’n derm llawer mwy effeithiol.

“Nid gweithwyr ASW oedd y cyntaf na’r olaf i brofi’r anghyfiawnder yma, y torri yma ar eu pensiynau.

“Roedd dirwyn i ben yn gynyddol fwy cyffredin yn nechrau’r 2000au, ac yn cosbi’r rheiny oedd fwyaf ffyddlon ac yn gweithio galetaf.”

‘Pitw’

Dywedodd Rhys ab Owen, sy’n aelod annibynnol, fod gan gynllun cymorth ariannol Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ar y pryd uchafswm taliad safonol o 90% o werth y pensiwn.

“Roedd hyn yn golygu bod pensiynwyr yn colli 10% o’u pensiwn o’r dechrau’n deg,” meddai.

“Rhagor wedyn o ganlyniad i chwyddiant, ac ar ben y cyfan, roedd yn rhaid i nifer dalu treth ar y swm pitw.

“I weithwyr oedd wedi bod yn gweithio ers degawdau – gan lafurio ddydd ar ôl dydd mewn gwaith peryglus – does dim syndod fod y cynllun gwallus hwn wedi arwain at brotestiadau ledled y Deyrnas Unedig.”

Rhybuddiodd yr Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru nad yw nifer o bensiynwyr heb gael cynnig iawndal o hyd, er gwaethaf adroddiad ombwdsmon seneddol ac achos yn y Llys Apêl.

“A oes wir angen drama deledu arall arnom i ddatrys y sgandal hon?” gofynnodd, gan gyfeirio at Mr Bates vs The Post Office oedd wedi dod â sgandal Horizon yn fyw.

‘Brwydr’

Roedd Owen John Thomas, tad Rhys ab Owen a chyn-wleidydd Plaid Cymru oedd wedi cynrychioli’r un etholaeth yn y Cynulliad, fel roedd yn cael ei alw ar yr un pryd, ynghlwm wrth ymgyrch y gweithwyr dur o’r cychwyn.

Talodd Rhys ab Owen deyrnged i’w dad mewn datganiad gerbron y Senedd, ddyddiau’n unig ar ôl ei farwolaeth ym mis Mai, gan ddweud ei bod yn nodweddiadol ohono ei fod yn rhoi pobol eraill a’r wlad uwchlaw popeth arall.

“Mae’r frwydr hon ar ran gweithwyr Caerdydd wedi para cyhyd fel ei bod wedi cwmpasu dwy genhedlaeth o’r teulu Thomas, gyda fy nhad yn llais cyson yn y frwydr hon dw i’n falch o gael cymryd yr awenau drosti,” meddai yn ystod y ddadl heddiw (dydd Gwener, Mehefin 21).

Rhybuddiodd y cyn-fargyfreithiwr a darlithydd y Gyfraith fod gweithwyr di-ri wedi marw wrth aros i’w pensiynau gael eu hadfer, gyda rhai’n methu talu am eu hangladdau eu hunain.

“Mae rhai, yn drasig iawn, wedi cymryd eu bywydau eu hunain wrth aros am gyfiawnder,” meddai.

“Dyma sgandal sydd heb ei datrys o hyd, sgandal sydd ar y gweill ers 22 o flynyddoedd; mae gweddwon yn dal i dalu morgeisi y dylid fod wedi’u talu ddegawdau’n ôl.”

‘Anghyfiawnder’

“A fydd y blaid gafodd ei sefydlu a’i hariannu dros y blynyddoedd gan y gweithwyr, o’r diwedd, yn rhoi’r arian i weithwyr dur ASW a’u teuluoedd sy’n ddyledus iddyn nhw?” gofynnodd Rhys ab Owen, gan ddisgwyl buddugoliaeth swmpus i Lafur yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Dywedodd Adam Price ei bod hi’n briodol fod y ddadl yn cael ei chynnal drws nesaf i Dŷ Hywel, lle dechreuodd ymgyrch y gweithwyr dur am gyfiawnder mewn cyfarfod gafodd ei drefnu gan dad Rhys ab Owen.

“Dro ar ôl tro, mae stori cyfalafiaeth ar yr ynysoedd hyn – a stori methiant ein democratiaeth – yn stori am sgandalau pensiynau,” meddai wrth y Siambr.

“Mae’n dweud rhywbeth am y gwledydd hyn yn y Deyrnas Unedig – y ffordd rydyn ni’n trin ein gweithwyr, ein gweithwyr hŷn yn eu hymddeoliad.

“Dyma’r cwestiwn mae’r Llywodraeth Lafur sydd i ddod bellach yn ei wynebu.”

Fe wnaeth y cyn-Aelod Seneddol a chyn-arweinydd Plaid Cymru groesawu addewid ym maniffesto Llafur ar bensiynau glowyr, gan alw am ymrwymiad cyffelyb ar gyfer cyn-weithwyr dur.

‘Brad’

Wrth ymateb ar ran Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Sarah Murphy gydnabod yr anghyfiawnder mae pensiynwyr Allied Steel and Wire wedi’i wynebu.

Tynnodd y gweinidog sylw at y ffaith nad yw’r pwerau dros bensiynau wedi’u datganoli, wrth iddi alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “wneud y peth iawn a rhoi cyfiawnder adferol i gyn-weithwyr ASW.

“Rydyn ni wedi’n siomi fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â sicrhau’r cyfiawnder tros bensiynau mae cyn-weithwyr ASW yn ei haeddu,” meddai wrth y Senedd.

“Dw i’n cydnabod y brad mae’n rhaid eu bod nhw’n ei deimlo…

“Nid rhoddion mo’r pensiynau hyn; cyflog wedi’i ddal yn ôl yw e.

“Cafodd y cyfraniadau hyn eu gwneud â ffydd gan weithwyr ASW, wrth iddyn nhw ddisgwyl y bydden nhw’n derbyn sicrwydd yn eu hymddeoliad – nid dim ond iddyn nhw, ond i’w teuluoedd hefyd.

“Dylid anrhydeddu’r cyfraniadau hynny, a’u hanrhydeddu’n llawn.”