Bu’n ras wyllt ar hyd a lled Gweriniaeth Iwerddon yr wythnos ddiwethaf. Roedd gan bleidiau tan hanner nos ar Fehefin 14 i dynnu posteri etholiadau’r Undeb Ewropeaidd i lawr, neu wynebu dirwy o €150 yr eitem o dan y Litter Pollution Act 1997. Ac mae’r delweddau’n dipyn o bictiwr, rhaid dweud, gyda pholion lamp yn blastar o luniau a logo’r ymgeiswyr. Tra bod yr Irish Independent yn diawlio’r arfer fel “gwastraff arian a malltod ar gymdeithas”, amddiffyn hynny fel rhan bwysig o’r broses ddemocrataidd wnaeth yr hanesydd etholiadol Alan Kinsella yn yr Irish Times:
“They’re also incredibly important for first time candidates. The lampposts are a level playing field… They tell people there’s an election on. Not everyone knows, you know.”
Siawns fod pawb bellach yn gwybod bod yna lecsiwn yn y Deyrnas Unedig ymhen wythnos a hanner. Yn bersonol, mi fuaswn i’n croesawu posteri o wynebau’r ymgeiswyr ar ochr ein ffyrdd, petai dim ond i ychwanegu mymryn o liw i’n Mehefin llwyd. Fyddech chi fawr callach yn y brifddinas beth bynnag. Prin yw’r posteri yn ffenestri tai, a does dim golwg o’r placardiau arferol yn swbwrbia. Naill ai bod costau byw yn dweud ar waith argraffu, neu fod pawb wedi hen, hen ildio i’r syniad o Syr Keir yn Number Ten. Ond mae lot fawr o anniddigrwydd lleol hefyd, wrth i ymgeiswyr Llafur gael eu parasiwtio i Gymru o’r pencadlys yn Southbank. Eisoes, codwyd cwestiynau am ddewis Torsten Bell i sefyll yng Ngorllewin Abertawe ac Alex Barros-Curtis dros Orllewin Caerdydd. Mae’n debyg taw hynny sy’n gyfrifol am absenoldeb placardiau coch o Dreganna i Bont-y-clun, wrth i ganfaswyr llawr gwlad streicio yn erbyn hwrjio Barros-Curtis arnyn nhw fel rhan o “ddiwylliant annemocrataidd” Llafur yn ganolog, medd Darren Williams, aelod o bwyllgor etholaeth Llafur Gorllewin Caerdydd. Mae’r dyn dŵad yn saff o’i sedd beth bynnag, fel rhan o’r ysfa i garthu’r Torïaid o Brydain wedi pedair blynedd ar ddeg.
Sylwais ar ddiffyg wmff cyffredinol wrth deithio hyd yr A470 hefyd. Mae fel petai ffarmwrs glas Aberhonddu wedi rhoi’r ffidil yn y to, fel yr ategodd Gareth Lewis, gohebydd gwleidyddol BBC Wales:
“In a town and constituency where every vote might count the lack of election posters both here and driving through Bannau Brycheiniog is stark.”
Ond mae cyfoedion yn y gorllewin mwy cenedlaetholgar yn tystio i’r ffaith fod enwau Ben Lake a Liz Saville Roberts yn drwch ar gloddiau a gerddi Aberystwyth, Llanbed a Chaernarfon.
Ydi’r dadleuon teledu yn adlewyrchu’r diffyg brwdfrydedd gweledol ar lawr gwlad? Mae’r ffigurau’n dangos mai rhyw 4.8m drodd i wylio’r ping-pong politicaidd rhwng Rishi Sunak a Keir Starmer ar ITV ddechrau’r mis – dwy filiwn yn llai na Johnson v Corbyn yn 2019. A dyw ffigurau’r rhaglenni dilynol rhwng saith arweinydd y prif bleidiau, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, yn fawr ddim i frolio amdanyn nhw. 3.2m welodd fersiwn y BBC, a 2.4m ar ITV yr wythnos ganlynol ar set oedd yn debyg i’r Weakest Link, meddai’r Independent. Pendwmpiais drwy’r ddwy, a deffro mewn ysgytwad o glywed clapio brwd i Nigel Farage. A’r tsiansar hwnnw ddaeth i’r brig mewn arolwg o 1,031 o bleidleiswyr gan ‘More in Common’ toc wedi darllediad y BBC, gydag Angela Rayner (Llafur) yn ail pell.
Ar nodyn tipyn mwy cadarnhaol, mae’r Aelod o’r Senedd Delyth Jewell yn cael chwip o ymgyrch ar ran ei chydweithwyr Plaid yn San Steffan. Mae eisoes wedi cyfrannu at Newsnight ar BBC Two, a seiat drafod Any Questions? Radio 4 o Eglwys Gadeiriol Casnewydd, lle taclodd Jo Stevens, Starmerite Canol Caerdydd, yn hynod effeithiol.
Ydych chi’n dal yn effro? Da chi, tanysgrifiwch i bodlediad Etholiad Vaughan a Richard ar BBC Sounds – neu ‘Vaughan a Fe’ meddai’r hen ben newyddiadurol – am awr o synnwyr cyffredin y tu hwnt i’r sloganau ailadroddus yng nghwmni Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones bob wythnos.