Dychmygwch Iesu o Nasareth fel darpar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig! Mae’n rhaid trefnu ymgyrch etholiadol y Saer Bregethwr. Cafodd un o’r goreuon ei benodi i’r gwaith hwnnw, gŵr o brofiad eang. Ei waith cyntaf oedd paratoi memo manwl i’w gydweithwyr, yn amlinellu rhinweddau a gwendidau Iesu fel darpar Brif Weinidog.
Memo CYFRINACHOL parthed: Ymgyrch Iesu o Nasareth
Mae’n fwriad gennym baratoi Iesu o Nasareth i fod yn Brif Weinidog wedi’r etholiad cyffredinol nesaf.
Cymeriad deniadol ydyw. Hoffus ddigon. Cefndir gweithiol – gellid defnyddio hynny’n effeithiol iawn am wn i.
Bydd angen iddo ymdacluso. Rhaid hepgor y wisg wen draddodiadol, a’r sandalau – gwell fuasai siwt drwsiadus ddu, glasurol-ysgrythurol, a thei laswelw. Awgrymaf eillio’r barf. Mae pob arolwg barn yn dangos bod pobol yn amheus o ddynion barfog.
Gwaith hawdd fydd cadw’r dyn on message. Ei brif destun siarad yw Teyrnas Dduw. Nid yw’n blino sôn am y peth; fel gwich hen echel ganddo! Dyn dethol ei eiriau ydyw ar y cyfan, ac mae hynny bob amser yn rhinwedd mewn gwleidydd.
Mae’n hoffi adrodd storïau byr bachog, a dylai hynny apelio at y wasg – maen nhw wrth eu boddau â stori dda!
Edifeirwch – mae hyn yn obsesiwn ganddo. Bydd angen iddo sôn llai o lawer am newid cyfeiriad, newid ffordd o fyw, a hynny’n bendant cyn yr etholiad; os daw i rym, fe all wneud fel y mynno wedyn.
Yn gydiol wrth ei bwyslais anffodus ar edifeirwch mae ei berthynas â Ioan Fedyddiwr. Dyma’r pennaf o’n trafferthion. Mae’r wasg eisoes yn sôn am y berthynas sydd rhyngddyn nhw. Bydd yn rhaid creu, a chynnal, pellter diogel rhyngddyn nhw â’i gilydd. Fel y gwyddoch, cafodd Ioan ei garcharu gan Herod, fel terfysgwr honedig. Mae’r cysylltiad hwn yn niweidiol iawn i yrfa wleidyddol Iesu o Nasareth, ond bydd creu pellter rhwng y ddau yn anodd, gan fod Iesu wedi dweud yn gyhoeddus ei fod yn ystyried Ioan yn fentor iddo. Gydag ychydig o igam-ogamu, mi gredaf y gallwn ni gael trefn ar y sefyllfa anodd hon!
Heb os, mae gan Iesu ei argyhoeddiadau, ac mae argyhoeddiadau’n bwysig i raddau. Yn y busnes yma, argyhoeddiadau heddiw yw pynciau trafod yfory. Bydd yn rhaid i Iesu ddysgu cyfrinach y gwirionedd gau.
Teyrnas Dduw. Gallwn fentro gyda hyn fel sylfaen i’r ymgyrch. Bydd angen chwarae ychydig gyda’r syniad, wrth gwrs, a’i feddalu. Mae’r peth yn lletchwith iawn fel y mae. Rhaid hepgor ‘Duw’ (caiff ddigon o gyfle ar ôl ei gyfnod yn Brif Weinidog i sôn am Dduw!) Pwysleisiwn mai teyrnas o’n mewn yw’r deyrnas mae’n sôn amdani neu, efallai’n well fyth, deyrnas ddaw maes o law. Yn sicr, ni ddylid gorweithio’i bwyslais ar newid ein ffordd o fyw, ein ffordd o ymwneud â’n gelynion ac yn y blaen – rywbeth gwlanog sydd ei angen, er mwyn gwneud y syniad o’r Deyrnas yn hawdd i’w ‘werthu’ i’r cyhoedd.
Mae ein hymchwilwyr yn gwbl argyhoeddedig na fydd derbyniad bodlon i bwyslais presennol Iesu – pwyslais amrwd iawn ydyw. Trugaredd a chyfiawnder yn gyrru pob polisi, ac mae cymod a brawdgarwch yn llawer rhy amlwg ganddo. Mae’r cyfan ychydig yn naïf, mae’r dyn yn gwbl argyhoeddedig fod yn rhaid i heddwch a diogelwch rhyngwladol droi ar echel cyfiawnder; ie, yr hen wallgofrwydd hwnnw! Yn ogystal â hyn oll, mae ganddo bwyslais ar rannu adnoddau’r byd yn deg – bydd yn rhaid i ni ei addysgu i sôn am hyn o beth yn nhermau egwyddor, a byth – byth – yn nhermau polisi! Rhwydd iawn y gwnawn adduned, ei chynnal hi sy’n galed. Rhaid i Iesu sylweddoli hynny. Mae gennym waith o’n blaenau, gyfeillion!
Felly, i grynhoi, cadw ‘Teyrnas’, hepgor ‘Duw’; cadw heddwch a chymod – bydd hynny’n sicrhau bod y rhyddfrydwyr a’r heddychwyr yn hapus, ond bydd angen caledi ychydig ar y peth er mwyn cadw’r dysgl wleidyddol yn wastad: soniwn am ddiogelwch fel sylfaen i heddwch, a hanfod pob diogelwch yw grym milwrol wrth gwrs – mi ddylai hynny weithio’n iawn. Os byddwn yn gweld bod gormod o bwyslais ar heddwch a chymod, gellid defnyddio fel sound byte: nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf (Mathew 10:34), ond gofalwch beidio ymhél gormod â chyd-destun y geiriau hynny!
Yr economi. Mae rhaid cael Iesu i drefn yn hyn o beth. Mae’r dyn yn byw ar drugaredd pobol eraill! Nid oes cyfrif banc ganddo, nid yw’n berchen ar dŷ. Mae’r dyn yn teithio o le i le yn pregethu. Mae’r wasg eisoes wedi cydio yn yr hyn a ddywedodd yn Nghapernaum: Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr (Mathew 8:20), ond dyna hi, ofer codi pais, ys dywed y ddihareb honno. Bydd angen nawr sefydlogi’r dyn rywsut! Bydd angen gwaith beunyddiol arno! Mae angen i bobol wybod mai trethdalwr ydyw! Bydd angen tŷ arno, morgais, dyledion… Mae angen y pethau hyn ar ddyn er mwyn i bobol wybod ei fod yn real!
Mae Iesu wedi awgrymu y gellid camu allan o’r system economaidd. Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio ac yn nyddu… (Mathew 6:28). Bydd yn rhaid tawelu ychydig arno – bydd angen un o’n pobol i baratoi areithiau iddo, o bosib! Heb hynny, wedi llwyddo i’w gael i rym, daw cant a mil o bethau yn ôl i’n drysu! Dw i’n ofidus iawn, gan fod nodyn pendant am ailddosbarthu cyfoeth yn mission statement Iesu o Nasareth! Adre’ yn synagog Nasareth, cyhoeddodd fod Ysbryd yr Arglwydd arno, a dwi’n dyfynnu’r datganiad nawr: “…i bregethu’r newyddion da i dlodion. Y mae wedi f’anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd (Luc 4:18&19). Byddwn mewn trafferth sylweddol heb feddalu ei bwyslais ar yr ymylol a’r gwan a’r difreintiedig. Mae’n rhaid iddo sylweddoli gan bwy mae’r grym mewn gwirionedd.
Yn gyffredinol, mi gredaf fod Iesu yn dweud gormod am arian. Mae pawb yn poeni am arian ar hyn o bryd, wrth gwrs, felly mae angen siarad lot amdano, heb ddweud dim yn benodol. Dylid cael Iesu i bwysleisio mai cyfrinach llwyddiant yw gweithio’n galed, a gyda gwaith caled, byw yn dda a glân. Nid oes reswm pam na all pawb o bobol y byd – pobol y Trydydd Byd, sori: y Gwledydd Datblygedig, hefyd wella’u byd a mwynhau’r cyfoeth sy’n eiddo i ni! Rags to riches in the Kingdom! neu ryw bwyslais tebyg!
Y teulu. Hyn yn anodd: nid yw Iesu’n briod, nid oedd ei fam yn briod pan esgorodd arno. Mae’r dyn wedi dweud llawer gormod am hyn eisoes, a phethau digon pigog. Bydd angen i ni dacluso hyn oll, gan iddo ddweud mai’r bobol sydd yn gwneud ewyllys Duw yw ei deulu, a’i fod wedi dod i rannu dyn yn erbyn ei dad a merch yn erbyn ei mam (Mathew 10: 35). Bydd yr ongl deuluol yn aruthrol anodd i ni! Gwell osgoi’r peth yn llwyr am wn i.
Iechyd. Wel, mae e’n iachawr o fri. Yn ôl pob tebyg, bu pobol Nasareth yn deisyf arno i aros gyda nhw a sefydlu clinig preifat yno. Buasai’r peth wedi bod yn wych i economi’r dref, ond mynnodd gael mynd allan at bawb, ym mhob man, ta waeth am eu safle cymdeithasol. Mae gafael yn ei argyhoeddiad y dylai fod gofal meddygol, safonol, llawn i bawb.
Buom yn twrio, cyn bod neb arall yn gwneud, ac fel y gwyddom mae’r cefndir teuluol ychydig yn ansicr, ond pe bai rhywun yn cael gafael ar hynny, fe awn ar ôl Joseff, gŵr busnes parchus o deulu Dafydd Frenin. Ar y cyfan, mae Iesu’n byw yn ddigon parchus, ond mae sôn amdano’n troi dŵr yn win mewn parti priodas, ac mae lluniau ar led ohono allan yn mwynhau gyda chymeriadau digon amheus. Gelwid ef yn ddiweddar yn feddwyn glwth (Mathew 11:19) – ond mae doethineb yn tarddu o waelod gwydryn ambell waith! Ond, ar y cyfan, mae enw da ganddo, mae e’n barchus iawn o’i elynion, mynna fod yn rhaid i ddyn garu ei elynion! Nid yw’n sôn am ei hawliau o gwbl, ond yn gyson yn pwysleisio ei barodrwydd i wasanaethu eraill. Mae e’n annog pobol i ddilyn ei esiampl – ac mae hynny’n iawn, gan mai esiampl o ddyn ydyw, wir; gallwn ennill tir gyda hyn.
Felly, dyma’r deunydd crai sydd gennym: Gŵr ifanc o gefndir cyffredin, bu farw ei dad yn gynnar, bu’n cynnal ei fam a’i deulu am flynyddoedd. Cymeriad deniadol, carismatig. Hanfodion ei faniffesto yw heddwch a chymod; caru gelynion, codi pontydd, rhannu cyfoeth, diogelu’r tlawd a’r difreintiedig, iechyd a gofal meddygol i bawb, hunanaberth. Mae yna drafferthion ond, o ddofi ychydig arno, ei dacluso, ei gyfeirio a’i gynghori, mae gobaith i hwn – dyma ddiemwnt amrwd o ymgeisydd!
Ond, er mor ddiddorol efallai yw’r memo, mae iddo ôl-nodyn personol a hwn, gredaf fi, sydd yn hollbwysig:
Maddeuwch nodyn bach personol, ond dwi wedi drysu am y dyn yma. Mae gen i ddiddordeb yn hwn, nid fel gwleidydd ond fel dyn. Dyma ddyn real iawn – perthyn iddo symlrwydd sylweddol iawn! Nid gêm mo hyn iddo, cymeriad o ddifri ydyw, mae hwn wirioneddol ar dân eisiau newid pethau, a hynny’n waelodol, sylfaenol; mae hwn yn byw ei grefydd ar ei daith! Dwn i ddim os mai ni yw’r bobol orau i’w hyrwyddo. Soniais amdano fel diemwnt amrwd, ond wir i chi, dwi’n amau’n fawr iawn a allwn ni a’n tebyg lyfnhau’r un iot ar ei gonglau geirwon, gogoneddus. Mae yna linell o gân, sydd wedi bod yn chwarae mig â mi ers i mi ddechrau paratoi’r memo yma, llinell o un o ganeuon Leonard Cohen; ces afael ar y geiriau neithiwr yn hwyr:
When he said repent, I wonder what he meant.