Does gan Lafur “ddim ucheglais i Gymru”, medd Plaid Cymru wrth ymateb i lansiad maniffesto Llafur Cymru.
Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yn y lansiad mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru; Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y blaid, a Rachel Reeves, Ysgrifennydd Cysgodol y Trysorlys.
Roedd Jo Stevens eisoes dan y lach am fod yn llais Llafur yng Nghymru, yn hytrach na bod yn llais Cymru o fewn y Blaid Lafur.
Wrth ymateb i’r lansiad, dywed Plaid Cymru mai maniffesto gafodd ei ysgrifennu gan y Blaid Lafur Brydeinig yw hi.
Does dim galwadau ynddo am ddatganoli’r heddlu a chyfiawnder nac Ystad y Goron, sef rhai o brif bolisïau Plaid Cymru, na chwaith am ariannu teg i Gymru yn sgil cynllun HS2.
Daw hyn er bod Llafur Cymru yn y Senedd wedi bod yn galw am bwerau ychwanegol i gymryd cyfrifoldeb am y materion hyn.
Mae Plaid Cymru hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y maniffesto’n ymddangos ar wefan y Blaid Lafur ac nid ar wefan Llafur Cymru.
‘Tanseilio datganoli’
Dywedodd Plaid Cymru fod Llafur yn tanseilio datganoli trwy osod llymder pellach ar Gymru, gyda gwerth £18bn o doriadau i wasanaethau cyhoeddus a pharhad polisïau niweidiol fel y cap budd-daliadau dau blentyn sy’n cadw plant yng Nghymru mewn tlodi.
“Does dim rhyfedd bod cyn lleied o uchelgais i Gymru yn y maniffesto yma – dyna’r cyfan y gallen nhw ei gael heibio pencadlys Llafur yn Llundain,” meddai Liz Saville Roberts, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd a threfnydd ymgyrch etholiadol y Blaid.
“Does dim ymrwymiad i gyllid canlyniadol HS2, dim datganoli cyfiawnder a phlismona, dim rheolaeth dros Ystâd y Goron, ac un llaw wedi ei chlymu y tu ôl i’w cefnau ar arian ôl Brexit.
“Mae Keir Starmer eisoes wedi dweud wrth Vaughan Gething beth i’w ddisgwyl – mwy o lymder, toriadau o £18bn i wasanaethau cyhoeddus a pholisïau niweidiol fel y cap ar fudd-dal dau blentyn.
“Mae Vaughan Gething yn rhy wan i sefyll i fyny at ei fos yn Llundain ac wedi’i amgylchynu mewn gormod o sgandal i sefyll dros Gymru.
“Wrth i Keir Starmer a Jo Stevens fynd ati i danseilio datganoli, bydd Plaid Cymru wastad yn rhoi buddiannau Cymru’n gyntaf.”
‘Dyfodol mwy llewyrchus i Gymru’
Wrth ymateb i’r maniffesto, dywed Vaughan Gething ei fod yn “amlinellu sut y byddwn ni’n newid Prydain ac yn adeiladu dyfodol mwy llewyrchus i Gymru”.
“Dyfodol lle mae pobol ifanc yn teimlo’n obeithiol, a lle mae potensial ein cenedl yn cael ei gyflawni.”