Bu farw’r actor a’r awdur dawnus a phoblogaidd Mei Jones, a gaiff ei gofio yn bennaf am chwarae’r cymeriad digri’ Wali Tomos ar C’mon Midffîld, ac am gyd-sgrifennu’r gyfres eiconig honno.

Ei enw llawn oedd Henryd Myrddin Jones a chafodd ei eni yn Carwad, Llanddona ar Ynys Môn. Bu’n eisteddfota dipyn pan oedd yn blentyn a dywedodd ei gyd-eisteddfodwr, Annwen Jones, yn ei theyrnged ar Twitter: ‘Myrddin ‘Carwad’ fydd o byth i mi…. roedd o fel brawd bach i mi.’

Daeth yn rhan fawr o gymuned bêl-droed y gogledd ac enillodd gap i dîm Ysgolion Cymru. Mae sawl un wedi sôn bod hynny yn allweddol i’w lwyddiant ar y gyfres comedi-sefyllfa am bêl-droed, ei fod yn adnabod ei bobol fel cefn ei law. Cyn actio gydag e yng Nghwmni Theatr Cymru yn yr 1970au cynnar, daeth yr actor John Pierce Jones – sef Arthur Picton, y rheolwr clwb a fu’n gymaint o deyrn dros yr hen Walter Tomos druan – i’w adnabod gyntaf yn bêl-droediwr ifanc.

Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp gwerin Mynediad am Ddim, rhwng 1974 ac 1979, pan oedd yn y coleg yn Aberystwyth. Dilynodd gwrs ôl-radd yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd a mynd yn actor proffesiynol wedyn.

“Roedd o’n gyfnod lle’r oedd yn sydyn iawn gwmnïau theatr Cymraeg yn bodoli,” meddai Alun Ffred Jones, ei gyd-sgrifennwr ar C’mon Midffîld. “Roedd yna gynulleidfaoedd mwy yn y cymunedau, ac roedd y teledu yn ehangu, cyn dyddiau S4C wrth gwrs. Roedd posib gwneud gyrfa yn actor proffesiynol…

“Roedd o’n actor amryddawn iawn, yn gallu gwneud gwahanol fathau o rannau, ac roedd o’n gyffyrddus yn eu gwneud nhw i gyd.”

Ar yr un cwrs ôl-radd roedd sawl enw arall a ddaeth yn rhan fawr o fyd y theatr, fel Cefin Roberts, Wyn Bowen Harries, a Siôn Eirian. Theatr asgell chwith â chenhadaeth gref i addysgu drwy sioeau oedd theatr wleidyddol ffasiynol y cyfnod, a dyma’r math o theatr y byddai’r criw yma yn mynd i’w gweld yn y Sherman a’r Chapter. Yn ôl y diweddar Siôn Eirian mewn llyfr ar hanes cwmni Bara Caws, cwmni yr ymunodd Mei Jones ag e ar ôl bod yng Nghaerdydd, roedd dylanwad y math yma o waith yn amlwg ar sioeau cynnar Bara Caws –- fel Bargen a Hwyliau’n Codi. Yng nghwmni Dyfan Roberts, Valmai Jones, Iola Gregory a Catrin Edwards y dechreuodd Mei Jones sgrifennu.

“Roedden nhw’n sgrifennu eu sioeau eu hunain,” meddai Alun Ffred Jones. “Roedd y profiad a gafodd o yn fanno wedi bod yn sail dda iawn, achos roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn ymchwilio ac yn sgriptio, ac yn perfformio’r sioe heb lawer iawn o adnoddau.

“Fe fuon nhw’n llwyddiannus eithriadol a dw i’n meddwl ei fod o wedi dysgu llawer iawn yn fanno. Yn sicr yn Bara Caws mi wnaeth o ddarganfod a datblygu’r dechneg o sgrifennu, wedyn aeth â hi o fanno.”

Roedd sioeau fel Hwyliau’n Codi yn chwyldroadol, a rhai yn cofio Mei Jones yn creu argraff ar y gynulleidfa fel llanc ifanc yn dringo i ben mast, neu bentwr o focsys a bwced. Ef oedd y cyntaf i ganu’r hwiangerdd ‘Nos Da Nawr’ ar lwyfan, a hynny yn y sioe ysgafn i blant, Y Bynsan Binc, mewn drag fel ‘Anni Byns’ i’w mab ‘Gari Baldi’ – yr actor Gari Williams. Dyfan Roberts a sgrifennodd eiriau’r gân, sydd wedi tyfu’n glasur erbyn heddiw, a Catrin Edwards a gyfansoddodd y gerddoriaeth.

Buodd Mei Jones yn actor amlwg ar S4C wedyn, mewn rhannau fel y gweinidog mwyn Eilir Thomas yn y gyfres Hufen a Moch Bach, ac ar y gyfres Almanac.

Ymlafnio’n galed ar sgript

Ar y radio y dechreuodd C’mon Midffîld, a symud i’r teledu ar ôl amser diolch i’r cynhyrchydd Elwyn Jones. Buodd yr John Pierce Jones yn sôn wrth wefan golwg360 am gael y sgriptiau cynnar drwy’r post.

“Roedd y ddau ohonon ni wedi tyfu i fyny yn y gymdeithas yna, roeddan ni’n nabod cymeriadau o gig a gwaed, a dyna pam roedd pawb yn medru uniaethu efo fo,” meddai. “Roedd pawb o ’nghenhedlaeth i yn cofio timau fel Niwbwrch. Dau beth oedd yn y pentre’ yna – côr a’r tîm pêl-droed.”

Byddai Mei Jones yn rhoi “llawer o egni” i mewn i’w waith sgrifennu, a daeth yn bennaf gyfrifol am sgriptio C’mon Midffîld wrth i’r gyfres fynd rhagddi.

“Dw i’n meddwl ei fod o wedi edrych yn fanwl ar beth oedd yn gweithio o fewn comedi,” meddai Alun Ffred Jones a fyddai’n cyfarwyddo ac yn cynhyrchu. “Roedd o’n dechnegydd da, yn gwybod sut i weithio tuag at linell ddigri, neu gyrraedd rhyw fath o dro. Roedd o yn gweithio’n galed iawn ar siâp sgript. Roedd o yn credu y dylai iaith fod yn iaith lafar dda. Roedd sgrifennu llac, di-ddal – ac mae yna lot o hynny ar S4C, arna i ofn – yn dân ar ei groen o.”

Er nad yw Alun Ffred yn siŵr pwy oedd arwyr llenyddol Mei Jones, mae’n ei gofio yn edmygu un sgwennwr. “Pan ddaru ni wneud ryw gasét, efo rhyw eitemau fel Tecs yn canu cerdd dant, mi ddarllenodd Mei ‘Môr o Wydr’ gan Tom Parry Jones, Malltraeth, sef awdur Teisennau Berffro – straeon am bobol Aberffraw, yn honedig. Roedd o wedi licio’r rheiny, ac mae rheiny’n bobol gyffredin digon tebyg i Midffîld. Dw i ddim yn dweud bod Tom Parry Jones yn arwr iddo fo, ond roedd o yn sicr wedi ei ddarllen o ac yn ei edmygu o.”

Cyn dychwelyd i sgrifennu’r ffilm C’mon Midffîld a Rasbrijam at y Nadolig ar S4C yn 2004, buodd Mei Jones yn ymgynghorydd sgriptiau ar ran y sianel. Mae’r awdur Bethan Gwanas yn cofio cael cymorth ganddo i sgrifennu ail gyfres Amdani.

“A sôn am addysg,” meddai. “Nid yn unig roedd o’n ysbrydoli ac annog, ond roedd o hefyd yn gweld pethau mewn ffordd mor wahanol i bawb arall. A dw i’n cofio un olygfa lle ro’n i wedi osgoi sgwennu’r ddeialog gan feddwl y byddai jest gweld Beryl (Sera Cracroft) yn siarad a chwifio’i breichiau efo plismon oedd wedi ei stopio am oryrru yn ddigon. ‘Nac ydi,’ meddai Mei. ‘Sgwenna hi!’ A fo oedd yn iawn wrth gwrs.”

Ei gofio “ar ei orau”

Mae poblogrwydd a dylanwad C’mon Midffîld yn anfesuradwy, a’r plant hynny a fuodd yn dwlu at Wali gyda’u rhieni, bellach yn oedolion eu hunain. Yn ôl y mezzo-soprano Sioned Gwen Davies, sy’n gweithio gyda’r cwmni Scottish Opera, ar Twitter: ‘Yn aml iawn yn fy swydd fydd pobol yn gofyn i mi lle wnes i ddysgu sut i berfformio ac amseru comedi, a mi fyddai wastad yn d’eud: ‘Wrth wylio oria o C’mon Midffild drosodd a throsodd pan yn ifanc hyd heddiw’. Diolch Mei Jones am bopeth.’

Mae Alun Ffred Jones yn gresynu na fyddai Mei Jones wedi gallu sgrifennu rhagor dros y ddegawd neu ddwy ddiwethaf.

“Roedd o’n gofyn lot ohono’i hun,” meddai. “Doedd o ddim yn ei ffeindio fo’n hawdd, achos ei fod o’n gweithio mor galed am y peth. Doedd o ddim yn sgwennwr yr oedd o’n llifo allan ohono fo. Roedd o’n gorfod gweithio’n galed iawn iawn, ac efallai bod hynny’n rhan o’r broblem.

“Mae yna lot o bobol wedi ei annog o i sgrifennu, gan gynnwys fi, a doedd dim byd yn dŵad. Efallai ei fod o’n meddwl ei bod hi’n anodd sgrifennu, y byddai’n cael ei gymharu efo Midffîld. Roedd o’n licio sgrifennu efo pobol eraill, er nad oedd o’n ffeindio hynny’n hawdd.”

Mae hefyd yn gresynu iddo roi’r gorau i actio. “Roedd o’n greadur a oedd yn byw ar ei nerfau,” meddai Alun Ffred, “ac efallai bod perfformio yn dipyn o straen arno fo. Os felly, mae hi’n biti na fyddai o wedi sgrifennu, ond be wnewch chi?”

Am ei asbri ar lwyfan gyda Bara Caws yn y dyddiau cynnar y bydd Alun Ffred Jones yn ei gofio fwyaf. “Mi ddylech chi gofio pawb ar eu gore,” meddai. “Dw i’n meddwl amdano fo fel perfformiwr yn nyddiau cynnar Bara Caws. Mi’r oedd o’n actor egnïol iawn, a dyna yn sicr lle weles i ei dalent o ar ei gore. Fel y perfformiwr yn y sioeau cynnar yna a fuodd mor boblogaidd ac mor llwyddiannus.”

 

Ffanciw, Mei Jones

Manon Steffan Ros

“Ein ffrind ni oll, yn glên ac yn gynnes ac yn ddigri ac yn annwyl ac yn seren mor, mor annisgwyl i fod ar ein crysau-T ac ar bosteri”

Mawredd Mei Jones

Garmon Ceiro

“Dw i ddim yn siŵr a o’n i’n gwerthfawrogi’r sgrifennu a’r cymeriadu’n llawn ar y pryd”

Roedd pawb eisiau nabod Wali Tomos

Jason Morgan

“Mae ing ar wahân am y bobl wnaeth i ni chwerthin, a gwnaeth Mei Jones hynny droeon i ni dros y blynyddoedd”