Pan o’n i’n blentyn, odd ’na selotep ar fotwm 4 ar y set deledu hen ffasiwn yn y stafell fyw. Ystyr y selotep, yn y bôn, oedd ‘gewch chi watsho teledu pryd fynnwch chi, blantos, ond hon yw’r sianel chi fod i watsho’.
A finne nawr yn rhiant, ma’r syniad o set deledu gydag un sianel wedi’i selotepio lawr yn ddoniol. Gan bo ni’n siarad fan hyn am ganol yr 80au, mae’n siŵr bod e’n adlewyrchu pwysigrwydd sianel Gymraeg i genhedlaeth fy rhieni, oedd wedi gorfod brwydro amdani.