Bendithio’r Bilionêrs

Rhwng areithiau Boris, Obama a Biden, fe gafodd y bilionêrs gyfle i hawlio’r llwyfan yng Nglasgow hefyd.

Addawodd Jeff Bezos, perchennog cwmni Amazon, £1.5 biliwn i frwydro yn erbyn newid hinsawdd – ond fe gadwith Bwrlwm y clod tan i’w gwmni dalu trethi teg ar draws y byd.

Mae hi wedi troi’n wythnos ddigon… cynhyrchiol yn yr Alban gyda’r uwchgynhadledd yn addo atal a gwyrdroi datgoedwigo erbyn 2030.