Doeddat ti’n methu gweld dim heb dy sbectol. Sbectol pot jam, ynte Wali, y fframiau ychydig yn rhy fach, a’r gwydr yn chwyddo dy lygaid di’n ddau gylch ’run lliw â Ginis. Hyd yn oed efo’r sbectol yna ar dy drwyn, doedd y byd a welaist ti ddim cweit yr un fath â’r un oedd pawb arall yn gweld, nagoedd?