Weithiau, mae ’na raglen neu ffilm sy’n cael ei chynhyrchu lle mae’r actorion sy’n rhan ohonynt yn cael eu cysylltu â’r cymeriadau y maen nhw’n eu chwarae am byth. Yn y byd Cymraeg, go brin fod hynny’n fwy gwir nag yn achos C’mon Midffîld. Bydd John Pierce Jones, Llion Williams, Siân Wheldon a Bryn Fôn wastad yn ‘Mr Picton’, ‘George Huws’, ‘Sandra’ a ‘Tecs’ cyn unrhyw rôl arall y maen nhw’n ei chwarae. Ond roedd hyn yn arbennig o wir am Mei Jones, a fu farw’r wythnos diwethaf, a