Bydd tri bwrdd gwybodaeth newydd yn cael eu gosod ger cofeb i Syr Thomas Picton yng Nghaerfyrddin.

Fe fydd y byrddau’n rhoi darlun llawnach o fywyd yr is-gadfridog Thomas Picton, a gafodd ei eni’n Sir Benfro,

Cafodd Picton ei ystyried fel arwr am flynyddoedd, ond mae hefyd yn adnabyddus am ei driniaeth greulon o bobol ddu – yn gaethweision a phobol rydd – ac am ganiatáu arteithio yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr Trinidad, o 1797-1803.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cael caniatâd cynllunio i osod y byrddau ar y gwair gyferbyn â’r gofeb restredig gradd dau, ac maen nhw wrthi’n penderfynu’n derfynol beth fydd ar y byrddau.

Roedd galwadau wedi bod i dynnu’r gofeb lawr, ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, fe bleidleisiodd Cyngor Sir Gâr o blaid ei chadw.

Cefndir

Penderfynodd y cyngor ailasesu cofebion ac enwau strydoedd Sir Gaerfyrddin, gan ddweud eu bod nhw’n ffieiddio tuag at hiliaeth a rhagfarn, nawr ac yn y gorffennol.

Cafodd tasglu ei sefydlu i wneud y gwaith, a chafodd barn y cyhoedd ei ystyried hefyd.

Fe wnaeth bron i 2,500 o bobol ymateb i’r cwestiwn ynghylch Cofeb Picton, gyda 1,613 o bobol yn dweud nad oedd angen cymryd camau pellach, a 744 yn dweud y dylid cymryd camau.

Er hynny, fe wnaeth rhai a atebodd “ie” a “na” gyfeirio at y posibilrwydd o osod byrddau gwybodaeth ger y gofeb.

Roedd y tasglu’n cytuno’n gryf y dylid ystyried ei swydd fel llywodraethwr Trinidad a’i gysylltiadau â chaethwasiaeth, a’i yrfa filwrol, wrth ddehongli ei hanes.

“Darlun teg o Picton”

Dywedodd swyddogion treftadaeth y cyngor, a wnaeth asesu’r cais am osod y byrddau newydd: “Gellir dadlau ei bod hi’n bosib nad yw pawb sy’n gwerthfawrogi’r gofeb fel rhan o’u tirwedd leol yn gwybod am weithredoedd Syr Thomas Picton, a bod y gofeb yn rhan o’r dirwedd leol adnabyddus a hoff, ond na fydden nhw’n gwerthfawrogi gweithredoedd y dyn.”

Dywedodd maer tref Caerfyrddin, Gareth John, ei fod wedi ceisio barn croestoriad eang o bobol a grwpiau yn y dref, a bod eu barn wedi cyd-fynd â’r farn gafodd ei rhoi yn yr ymgynghoriad.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, sy’n cynrychioli De Tref Caerfyrddin ar y cyngor sir, wrth y tasglu ei fod wedi cael sicrwydd y bydd y byrddau gwybodaeth yn cynnig darlun teg o Thomas Picton.

“Dw i’n edrych ymlaen at eu gweld nhw, a gweld ymateb pobol eraill iddyn nhw,” meddai.

Yn ddiweddar, cafodd portread o Thomas Picton ei dynnu lawr o arddangosfa yn Amgueddfa Cymru er mwyn cael ei ailddehongli a’i arddangos eto dros y misoedd nesaf.

Caerfyrddin: Mwyafrif o blaid cadw cofeb Picton

Ond cred bod angen “rhoi rhywbeth o gwmpas neu ar y gofeb sy’n cyflwyno Syr Thomas Picton yn gyflawn”