Mae’r bobol fwyaf bregus yn Libanus yn parhau i ddioddef effaith argyfwng economaidd ac iechyd yno, chwe mis ar ôl i ffrwydrad chwalu’r brifddinas, Beirut.

Mae grwpiau dyngarol a chymdeithasau sifil lleol yn arwain yr ymdrechion i gefnogi teuluoedd ond mae galw mawr am gymorth yno o hyd.

Digwyddodd y ffrwydrad ym mhorthladd Beirut fis Awst y llynedd gan ladd dros 200 o bobl ac anafu dros 6,500. Dinistriwyd 74,000 o gartrefi ar draws y ddinas gan hefyd ddifrodi nifer o ysgolion ac ysbytai.

Bu protestiadau mawr yn dilyn y ffrwydrad, ac fe ymddiswyddodd holl aelodau cabinet llywodraeth y wlad.

Yn ogystal â hyn, mae Covid-19 a chyfyngiadau teithio wedi gwaethygu’r argyfwng economaidd, gan effeithio’r tlotaf waethaf, ac mae’r clo presennol yn rhwystr i asiantaethau wrth iddynt geisio darparu cymorth i’r bobol fwyaf bregus.

‘Creithiau dwfn’

“Mae’r ffrwydrad dinistriol yr haf diwethaf wedi gadael creithiau dwfn mewn gwlad sy nid yn unig yn wynebu llawer mwy o achosion o Covid-19, ond sydd hefyd yn wynebu caledi economaidd, gorchwyddiant, diweithdra mawr a chythrwfl gwleidyddol,” meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yng Nghymru gefnogodd ein hapêl brys i Libanus. Mae eu cefnogaeth wedi helpu ein partneriaid i wneud gwahaniaeth i nifer o deuluoedd, ond mae angen cefnogaeth o hyd.

“Mae’r ffrwydrad wedi gwneud safon byw’r rhai oedd eisoes yn fregus yn Libanus yn llawer gwaeth. Mae angen ymateb tymor hir a pharhad i gefnogaeth ryngwladol, a hwnnw wedi ffocysu ar gyrraedd y tlotaf.”

Effaith y ffrwydrad ar deuluoedd bregus

Daeth Majid Zaarour i Beirut gyda’i deulu o Syria ddeg mlynedd yn ôl fel ffoaduriaid, ond yn y ffrwydrad fis Awst difrodwyd ei gartref ac anafwyd ei wraig.

“Dyw fy mhlant ddim yn gallu anghofio sŵn y ffrwydrad, pan maent yn clywed unrhyw sŵn o’n cwmpas, yn syth maent yn cofio be ddigwyddodd… mae gan fy mab ieuengaf broblemau llefaru nawr.”

Derbyniodd gefnogaeth ariannol gan bartner Cymorth Cristnogol, Cymdeithas Najdeh yn Beirut, a sicrhaodd ei fod yn gallu prynu bwyd a thalu’r rhent am ei gartref.

Mae’n un o 708 o deuluoedd bregus a dderbyniodd gymorth brys yn dilyn y ffrwydrad, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ffoaduriaid o Balestina a Syria sy’ ddim yn derbyn unrhyw gymorth gan lywodraeth Libanus.

Ffrwydrad Beirut: ymchwiliad “cymhleth iawn”

Yr Arlywydd Michel Aoun yn dweud na fydd yn dod i ben yn gyflym