Mae ’na alwadau i gael gwared a’r rhan o gytundeb Brexit sy’n ymwneud a Gogledd Iwerddon, wrth i Boris Johnson rybuddio Brwsel y bydd yn gweithredu i atal ffiniau masnach ym Mor Iwerddon.
Yn ôl Prif Weinidog Iwerddon Arlene Foster mae Protocol Gogledd Iwerddon yn peri risg i’r “cysylltiadau gwleidyddol ac economaidd” gyda’r Deyrnas Unedig ac mae hi wedi galw am ei ddiddymu.
Roedd y cytundeb ynglŷn â Gogledd Iwerddon yn cael ei weld fel ffordd o ddatrys un o’r prif feini tramgwydd yn y trafodaethau Brexit – sef ffin Iwerddon – gyda gwiriadau ar nwyddau sy’n cael eu masnachu rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon, a chaniatáu iddyn nhw symud yn rhydd yn Iwerddon.
Pryderon
Daeth pryderon ynglŷn â’r protocol a’i effaith ar fasnach rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU i’r amlwg wythnos ddiwethaf pan gafodd Cymal 16 ei weithredu er mwyn cau’r ffin i allforion o’r brechlyn Covid o Weriniaeth Iwerddon.
Mae disgwyl i is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Maros Sefcovic ymweld â’r DU wythnos nesaf ers mwyn trafod y mater ac mae Boris Johnson wedi dweud wrth Aelodau Seneddol y “byddwn yn gwneud popeth sydd angen i ni wneud… i sicrhau nad oes ffin ym Mor Iwerddon.”
Bu Maros Sefcovic a’r gweinidog yn y cabinet Michael Gove yn cynnal cyfarfod gyda Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon ddydd Mercher (Chwefror 3).
Mewn datganiad dywedodd Maros Sefcovic a Michael Gove y byddan nhw “gweithio’n galed i ddod o hyd i ddatrysiad i’r materion yma”.