Efa Lois
Dyw’r adain dde wleidyddol dal ddim yn gweld y ffoaduriaid fel pobl go iawn, yn ôl Efa Lois
Yr wythnos diwethaf fe welais lun yn dyfynnu Nigel Farage: “Controlling your borders and looking after your own people first isn’t right-wing or left-wing, it’s plain common sense”.
Wrth ddwyn i ystyriaeth yr argyfwng dyngarol sydd wrthi’n amlygu ei hun, mae’n anodd iawn derbyn fod rhai pobl yn dal i fod yn feddw ar bropaganda UKIP a’r cyfryngau.
Pa fath o berson fyddai’n poeri o gopaon clogwyni Dover ar y rheini sydd yn dianc o un hunllef i hunllef arteithiol arall?
Gwerth bywyd
Diwedd yr wythnos diwethaf fe benderfynodd y cyfryngau adrodd erchylltra’r sefyllfa ar ôl wythnosau a misoedd o alw’r bobl hyn yn unrhyw beth oni bai am bobl.
Pam bod y pypedau hyn ddim ond yn barod i werthu’r gwirionedd pan fo llun digon pwerus o gorff i werthu eu papurau? Pa bryd y trodd pwysigrwydd miloedd o fywydau yn ddim ond propaganda i’r rheiny sy’n poeri gwleidyddiaeth drwy’r twnnel, o’u tai diogel, heb gysgod trais na newyn ar eu cyfyl?
Pa bryd yn eu bywydau llwm y penderfynodd y bobl hyn, cefnogwyr UKIP, fod eu bywydau hwy yn werth mwy na bywydau pobl eraill? Pa fore ddeffroesant hwy yn argyhoeddedig fod ganddyn nhw’r hawl i benderfynu pwy all, ac allai ddim, byw? Pa bropaganda all foddi synnwyr cyffredin pobl nes eu bod yn methu sylweddoli fod pob un o’r ffoaduriaid yn bobl?
Cyfrifoldeb Prydain
Pan gyhoeddodd Leanne Wood ei bod yn credu y dylai Cymru gymryd cwota o’r ffoaduriaid, mi oedd digonedd o bobl yn barod i bregethu’r celwydd haerllug y maen nhw’n ei ddarllen yn y cyfryngau bob bore.
Ond faint o’r bobl hyn sydd wedi meddwl sut beth fyddai pe byddai’r fantol wedi troi? Faint o’r bobl hyn fyddai’n barod i aros mewn gwlad lle mae byw yn berygl? Faint o’r bobl hyn fyddai’n barod i wylio eu plant yn cael eu troi’n filwyr cyn iddynt droi’n oedolion?
Pa fath o berson all bleidleisio dros ryfel, ac yna gwrthod y canlyniadau?
Dianc o ryfeloedd ac ansefydlogrwydd a achoswyd gan ein gwleidyddion Prydeinig mae llawer o’r bobl hyn. Ond nid dyna’r hyn rydym ni’n cael clywed drwy hidlydd uchelseinydd newyddiaduriaeth.
Ymfudwyr yn boddi wrth geisio cyrraedd Prydain. Ymfudwyr yn cael eu harestio yn y twnnel. Ymfudwyr, nid pobl. Yn eu dallineb dewisol maen nhw’n gwrthod yn lân â gweld pobl.
Bellach mae’r Almaen wedi cyhoeddi eu bod am gymryd 500,000 o ffoaduriaid o Syria’r flwyddyn. Sarhad felly yw’r ffaith fod David Cameron wedi cyhoeddi na fydd Prydain yn cymryd mwy na 4,000 y flwyddyn.
Mae galw ar lywodraeth Prydain i gyfaddef eu bod wedi chwarae rhan yn ansefydlogrwydd Syria, a chymryd cyfrifoldeb am y canlyniadau.
Beth sydd bwysicaf?
Pan ddywedodd Bob Geldof y byddai’n cynnig llety i deuluoedd o ffoaduriaid yn ei gartref, roedd y sylwadau yn orlawn o bregethu propaganda gwag eto: “Ble mae ei drethi?”
Paham na allwn weld fod bywyd pobl yn werth mwy na threthi? A fyddai’r bobl wnaeth y sylwadau hyn yn gwrthod llety pe bydden nhw mewn argyfwng dyngarol?
Pa bryd byddai rhywun sy’n ffoi am ei fywyd i wlad fwy sefydlog yn ailfeddwl eu llety, gan feddwl yn ddwys os yw’r person maen nhw’n aros â nhw wedi talu eu trethi?
Trasiedi UKIP yw anallu rhai o’i chefnogwyr i osod eu hunain yn sefyllfaoedd y rheiny maen nhw’n eu herlid. Pe bydden nhw’n gwneud hynny, efallai na fyddai UKIP yn bodoli yn y lle cyntaf.
Mae Efa Lois yn fyfyrwraig Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl, ac yn wreiddiol o Aberystwyth