Gosod blodau ger safle'r ymosodiad ar draeth yn Tiwnisia
Fe fydd y cwestau i farwolaethau 30 o Brydeinwyr yn yr ymosodiad brawychol ar draeth yn Tiwnisia yn cael ei glywed gan farnwr llys y goron.

Y Barnwr Nicholas Loraine-Smith, sydd fel arfer yn eistedd yn Llys y Goron Southwark, yn Llundain, fydd yn cynnal yr ymchwiliad swyddogol i farwolaethau’r 30 o bobl o’r DU fu farw.

Roedd Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent ymhlith 38 o bobl a gafodd eu saethu’n farw gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui, ar draeth yn Sousse ar 26 Mehefin.

Mae’r grŵp brawychol IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Cafodd y Barnwr Loraine-Smith ei enwebu ar gyfer y rôl gan yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Arglwydd Ganghellor, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove.