Mae 12 o blismyn wedi cael eu lladd pan ffrwydrodd bom ar ochor y ffordd yn nwyrain Twrci.

Digwyddodd hyn yn sgil ymosodiadau  awyrennau Twrci sy’n cael eu cynnal yn erbyn y gwrthryfelwyr Cwrdaidd  a’u gwersylloedd yng ngogledd Irac.

Honnir bod gwrthryfelwyr Cwrdaidd (PKK) wedi tanio bom yn nhalaith ddwyreiniol Igdir, Twrci, wrth i gerbyd yr heddlu fynd heibio.

Roedd y cerbyd yn cludo grŵp o swyddogion sy’n gyfrifol am dollau ar ffiniau’r wlad, yn ôl Asiantaeth Anadolu.

Cafodd swyddogion eraill eu hanafu hefyd yn yr ymosodiad ar ffiniau’r dalaith sy’n ffinio ag Armenia.

Streiciau’r awyrennau

Fe ddywedodd asiantaeth newyddion Twrci fod yr ymosodiadau wedi’u targedu at grŵp o wrthryfelwyr Cwrdaidd, ynghyd â chwech o’u gwersylloedd yng ngogledd Irac.

Dywedodd Asiantaeth Anadolu fod yr awyrennau wedi bomio grŵp o 25 o wrthryfelwyr oedd yn cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r ffrwydrad a laddodd 16 milwr ger ffin Irac ddydd Sul.

Roedd 53 awyren ynghlwm â’r ymosodiadau a oedd wedi targedu’r gwrthryfelwyr ar eu llwybrau dianc yn Irac.

16 wedi’u lladd mewn “ymosodiad tebyg ddydd Sul”

Daw’r ymosodiad hwn ynghanol cynnydd sydyn mewn trais rhwng lluoedd diogelwch Twrci â gwrthryfelwyr o Blaid y Gweithwyr Cwrdistan, (Partiya Karkerên Kurdistan – PKK).

Lladdwyd 16 milwr mewn ymosodiad tebyg gan y PKK ddydd Sul.

Mae nifer o brotestiadau yn digwydd ar hyd a lled dinasoedd Twrci ar hyn o bryd yn erbyn y PKK.

Dywedodd yr asiantaeth newyddion fod nifer o ganghennau lleol y blaid dros y Cwrdiaid wedi’u fandaleiddio yn ystod y protestiadau a gynhaliwyd ddoe.