Awyren ddi-beilot
Datgelodd Downing Street prynhawn ma bod y penderfyniad i ddefnyddio awyrennau di-beilot yr Awyrlu i dargedu unigolion yn Syria, oedd yn cynllwynio ymosodiadau yn y DU, wedi ei gymryd “rhai misoedd yn ôl.”
Cafodd cyfarfod o aelodau’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol, a gafodd ei gadeirio gan David Cameron, ei gynnal yn gynharach eleni.
Roedd wedi derbyn cyngor gan y Twrne Cyffredinol y byddai ymosodiadau o’r fath yn gyfreithlon ar y sail eu bod yn hunanamddiffyniad, meddai llefarydd swyddogol y Prif Weinidog.
Ond fe wrthododd gadarnhau neu wadu a oedd y cyfarfod wedi llunio rhestr o unigolion i’w targedu.
Datgelwyd y manylion wrth i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon awgrymu y gallai rhagor o ymosodiadau gan awyrennau di-beilot gael eu cynnal yn Syria o fewn wythnosau.