Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ger Bryneglwys, Corwen y bore yma.
Cludwyd pedwar o bobol i’r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr A5014 ychydig cyn 5.28yb.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Corsa llwyd a char Mitsubishi Warrior du.
Cludwyd gyrrwr y Mitsubishi, gyrrwr y Corsa ynghyd â dau berson arall oedd yn teithio yn y car hwnnw i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru nad yw eu hanafiadau’n rhai difrifol.
Apelio am dystion
Fe fu’r ffordd ynghau am dair awr tra roedd y gwasanaethau brys yn delio â’r digwyddiad.
Dargyfeiriwyd traffig boreol yr ardal am gyfnod, ond ail-agorodd y ffordd am 8.54yb.
“Rydym yn awyddus i siarad efo unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y cerbydau ar y ffordd cyn y digwyddiad”, meddai Nicki Collins o Uned Plismona’r Ffyrdd.
Mae swyddogion yr heddlu yn galw ar unrhyw dystion i gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod S137307.