Reyaad Khan
Mae ffrind teuluol i’r jihadydd Reyaad Khan o Gaerdydd wedi pwyso ar David Cameron am esboniad ynglŷn â sut yr oedd y dyn 21 oed yn berygl uniongyrchol i’r DU.
Fe wnaeth y Prif Weinidog gyhoeddi brynhawn ddoe fod awyren ddibeilot yr Awyrlu wedi lladd Reyaad Khan mewn ymosodiad yn Syria ddiwedd Awst eleni.
Dywedodd David Cameron eu bod wedi derbyn gwybodaeth bod Reyaad Khan yn cynllwynio ymosodiadau brawychol yn y DU.
Fe aeth Reeyad Khan i Syria ddwy flynedd yn ôl i ymuno a’r grŵp eithafol IS.
‘Angen mwy o wybodaeth’
Mae Saleem Kidwai, ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru, wedi galw am dystiolaeth am yr hyn yr honnir oedd Reeyad Khan yn bwriadu ei wneud, a oedd yn ddigon o reswm i’w ladd.
“Hoffai’r gymuned gael mwy o wybodaeth am yr hyn oedd e’n bwriadu ei gyflawni”, meddai.
“Mae pawb wedi’u synnu fod y Prif Weinidog wedi mynnu lladd y Prydeiniwr heb sêl bendith y Senedd,” ychwanegodd Mohammad Islam, cyn gynghorydd lleol a ffrind i deulu Reeyad Khan.
Ond, “dylai rhywun sy’n gwneud rhywbeth o’i le gael ei gosbi”, meddai Mokaddus Miah, ysgrifennydd Mosg Jalalia Caerdydd.
Er, byddai wedi hoffi gweld y Jihadydd yn cael mynd o flaen ei well mewn llys ym Mhrydain.
‘Cyhoeddi Cyngor Cyfreithiol’
Fe ddywedodd Eluned Parrott, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, y dylid cyhoeddi’r cyngor cyfreithiol a roddwyd i’r Prif Weinidog cyn yr ymosodiad.
“Oni bai bod modd profi sail gyfreithiol yr ymosodiad hwn, mae gan y cyhoedd lle i amau y gallai’r ymosodiad fod wedi’i orchymyn heb ddilyn trefn briodol”.
“Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr ei fod yn gyfreithiol”, ychwanegodd yr AC.
‘Anodd ymdopi’
Esboniodd Mohammad Islam fod rhieni Reeyad Khan – Rukia, 41, a Nazim, 46, – yn dal o fewn y cyfnod traddodiadol o alaru am 40 diwrnod, a’u bod nhw’n ei “gweld hi’n anodd ymdopi”.
“Mae’r gymuned gyfan yno iddyn nhw”, esboniodd Mokaddus Miah, “a does neb yn meddwl dim llai ohonyn nhw”, ychwanegodd.
Fe wnaeth Eluned Parrott hefyd ymestyn ei chydymdeimlad at y teulu gan ddweud;
“Mae’r teulu wedi galaru unwaith yn barod pan adawodd eu mab Gaerdydd i ymuno ag IS, nawr, mae’n rhaid iddyn nhw alaru am ei farwolaeth hefyd”.
“Rwy’n meddwl amdanyn nhw â’r gymuned ehangach yn y cyfnod anodd hwn”, ychwanegodd.