Gwyl Rhif 6
Mae Robin Llewelyn, perchennog pentref Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth, wedi amddiffyn cynnal Gŵyl Rhif 6 yn dilyn beirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae wedi  wfftio cyhuddiad Dr Seimon Brooks nad yr Ŵyl “yw’r ffordd ymlaen i gymdeithas Gymraeg Gwynedd ac nad yw’n ateb diwylliannol i’r Gymraeg”.

Cafodd  Gŵyl Rhif 6 ei chynnal dros y penwythnos gan ddenu miloedd o bobl i’r ŵyl.

‘Digwyddiad twristaidd’

Dywedodd Dr Seimon Brooks ar Facebook nad oedd yn beirniadu Portmeirion ond ei bod yn “anodd cyfiawnhau polisi o roi adloniant Cymraeg y tu ôl i ‘paywall’ sy’n costio cannoedd o bunnoedd y pen.

“Ein gwlad ni ydi hon, ac rwy’n anfodlon ar y duedd ddiweddar o gael gwyliau cerddorol mawr yng Ngwynedd hefo ‘llwyfannau’ Cymraeg. Mae eisiau inni fynd yn ôl i sut oedd pethau ers talwm pan oedd gynnon ni wyliau Cymraeg, ac ambell i act ryngwladol yn ymddangos yn ôl y galw.

“Digwyddiad twristaidd ddylai Gŵyl Rhif 6 fod yn y bôn. Os ydi ymwelwyr yn dod i mewn, ac yn gwario pres gan helpu economi Port a Phenrhyn, mae hynny i’w groesawu. Ond peidiwn ni a’n twyllo ein hunain fod yr ŵyl hon yn ateb diwylliannol i’r Gymraeg.”

‘Hollol hurt’

Ond yn ôl Robin Llywelyn mae’n gysyniad “hollol hurt bod yr Ŵyl yn ateb diwylliannol i’r Gymraeg, maen nhw’n eiriau sy’n golygu dim byd.”

Wrth siarad gyda Golwg360, mae wedi amddiffyn  yr Ŵyl, sydd bellach ar ei phedwaredd flwyddyn eleni,  gan bwysleisio’r buddiannau i’r gymuned leol.

“Mae’r ŵyl yn cynrychioli diwylliant yr ardal, mae’n ŵyl sydd i fod wrth fodd y gymuned leol, i roi mwyniant iddyn nhw, a hybu’r economi a helpu gwaith yn yr ardal ond hefyd efo ryw fath o neges genhadol, gan roi cyfle i bobl ddiarth ddod i adnabod ychydig bach ar ddiwylliant arbennig yr ardal,” meddai Robin Llywelyn.

‘Hyrwyddo diwylliant’

Fe gyfeiriodd at Gôr y Brythoniaid sy’n perfformio’n flynyddol yn ystod yr wyl fel enghraifft o’r modd y maen nhw’n hyrwyddo diwylliant Cymru yn ehangach.

“Mae’r corau meibion er enghraifft yn gwneud cyfyrs pop roc cyfoes  a hwyrach bydd hynny yn ennill dipyn o barch pobl o wledydd eraill sydd o bosib yn ddilornus am ein bod yn dueddol o guddio ein rhagoriaethau tu ôl i lenni a ddim eisiau eu rhannu nhw.”

Yn ei neges, fe feirniadodd Dr Seimon Brooks gost y tocynnau, ond mae Robin Llywelyn yn anghytuno gan fynnu nad yw wedi derbyn cwynion am y pris.

“’Does yna neb yn cael eu gorfodi i fynychu’r ŵyl ac mae son fod y tocynnau yn costio cannoedd o bunnoedd, ond £120 ydi tocyn lleol a ‘does yna neb wedi cwyno i fi am brisiau tocynnau.”

‘Blaenoriaeth i’r Gymraeg’

Mae Robin Llywelyn yn awgrymu i feirniaid yr Ŵyl fynd ati i ymdrechu i wella’r hyn sydd yno’n barod yn lle barnu: “Yn hytrach na dilorni’r peth ac awgrymu bod eisiau cau’r ŵyl a gwneud rhywbeth bach yn ei le, mae angen  edrych ar weithio tu fewn i rywbeth a gweld sut fedran ni ei wella.  ‘Dan ni’n edrych i roi blaenoriaeth i’r Gymraeg.”

Mae Robin Llywelyn yn cydnabod nad yw’r Ŵyl yn berffaith: “Mae yna le yn sicr i wella, mi ydw’i wedi bod yn cadw llygad ar arwyddion i sicrhau eu bod yn ddwyieithog.”

Llwyfan unigol?   

Wrth ymateb i’r feirniadaeth gan Seimon Brooks fod yna lwyfan unigol yn unig i fandiau Cymraeg, dywedodd Robin Llywelyn: “Mae’n bwynt teg i wneud, mae yna gwestiwn am fandiau Cymraeg yn rhannu un llwyfan, neu ydio’n well iddyn nhw fod ar lwyfannau gwahanol?, Ond y peryg ydy y bydden nhw yn rhoi slot gwael i fandiau Cymraeg.

“Beth bynnag, nid dyna oedd yr unig lwyfan Cymraeg, mi oedd Gwenno, Reu, Gruff Rhys ac Ifan Dafydd ar lwyfannau gwahanol. Mi roddodd Côr y Brythoniaid berfformiad cwbl ddwyieithog.”