Stadiwm y Mileniwm
Fe fydd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei hailenwi yn ‘Stadiwm Principality’ ar ôl i gymdeithas adeiladu’r Principality arwyddo cytundeb i noddi’r maes eiconig.

Bydd y cytundeb yn para 10 mlynedd ac yn dechrau ym mis Ionawr 2016, ac yn ôl adroddiadau fe allai fod werth hyd at £15m.

Cafodd y stadiwm ei hadeiladu ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999 ac mae’n dal bron i 75,000 o gefnogwyr, ond dyma’r tro cyntaf ers iddi agor y bydd hi’n cael ei henwi ar ôl noddwr.

Undeb Rygbi Cymru sydd berchen y stadiwm, ac yn ogystal â chael ei defnyddio ar gyfer holl gemau rygbi Cymru mae’r stadiwm hefyd wedi cynnal nifer o gemau pêl-droed y tîm cenedlaethol yn ogystal â chyngherddau a sioeau eraill.

Stadiwm adnabyddus

Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw, fe ddywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies ei fod “wrth ei fodd” yn cyhoeddi’r bartneriaeth newydd gyda Principality.

Ychwanegodd fod y stadiwm yn “ganolbwynt i’r genedl ac yn adnabyddus yn fyd-eang”.

Mae’r arfer o enwi meysydd chwarae ar ôl noddwyr wedi dod yn fwy amlwg ym myd chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf, gydag Etihad, Emirates, Aviva a Swalec i gyd yn noddi stadiwms adnabyddus.

Ond mae ailenwi stadiwm fwyaf Cymru ar ôl cwmni Principality wedi ennyn ymateb cymysg ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda sawl cefnogwr yn cwestiynu arwyddocâd yr enw ac eraill yn mynnu mai Stadiwm y Mileniwm y bydd hi’n cael ei galw o hyd.

Fodd bynnag, gobaith eraill oedd y byddai’r incwm ychwanegol o noddi’r stadiwm yn cael ei ddefnyddio gan Undeb Rygbi Cymru i hybu’r gamp ar lawr gwlad.