Cafodd Hefin Jones ei ysbrydoli gan un o negeseuon trydar y newyddiadurwr Vaughan Roderick…yn ail ran ei lith mae Hefin Jones yn pigo tyllau yn newyddiadura’r BBC a CNN yn Irac, Iran, Venezuela, Iwerddon a Lloegr…
Diolch i Vaughan Roderick am y blog yma, canys efe a’i ysbrydolodd wrth drydar nad ydi Russia Today yn sianel newyddion go-iawn, fel y BBC a CNN sydd gyda’u newyddiadurwyr yn gwneud dim ond eu gorau glas.
Felly beth am olwg ar enghreifftiau pellach o newyddiaduraeth ddim-o-gwbl-yn-bropaganda gytbwys y ddwy sianel bur a theg hynny?
Irac
At CNN i ddechrau a’r ymosodiad ar Irac ar ddechrau’r nawdegau yn yr hyn alwyd yn Rhyfel y Gwlff, lle oedd rhaid dangos pa mor orffwyll oedd Saddam Hussein. Ac i’r gohebwyr dewr oedd reit ar y ffin yn Saudi Arabia yn ol hwy, yn gwisgo masgiau nwy wrth osgoi bomiau tan goed palmwydd ffug o’u stiwdio’n America. http://www.youtube.com/watch?v=isMtxbPdvzg
Ymlaen i’r cyfnod lle aethpwyd ati i oresgyn Irac go iawn yn 2003 mae ymchwil Prifysgol Caerdydd a’r cwmni Media Tenor wedi dangos fod allbwn y BBC’n drylwyr gefnogol i antur eu llywodraeth. 2% o’r geiriau a ynganwyd ar y sianel oedd yn codi amheuaeth o unrhyw fath ar syniadaeth yr antur. Canlyniad eu hymchwil yw fod y BBC wedi bod yn asgwrn cefn i’r Llywodraeth yn eu hymgais i werthu’r rhyfel.
Ar noson gyntaf y goresgyn, dyma oedd gan Andrew Marr i’w ddweud yn sefyll tu allan i rif 10 Stryd Downing: “[Tony Blair] said that they would be able to take Baghdad without a bloodbath and that in the end the Iraqis would be celebrating, and on both of those points he has been proved conclusively right . . .”
Yn un o’r adroddiadau prin lle cwestiynwyd gonestrwydd Tony Blair a’i resymeg o Arfau Dinistriol o Grynswth fe fwliwyd y BBC gan Llafur ac Alistair Campbell i’r fath raddau nes y diswyddwyd Andrew Gilligan y newyddiadurwr awgrymodd fod y dossier ar yr arfau anweledig yn ‘sexed-up’. Yn fwy na hynny ymddiswyddodd Greg Dyke fel Cyfarwyddwr Cyffredinol. Roedd rhaid torri pen y person oedd yn rhedeg yr holl gorfforaeth pan feiddiodd y BBC gwestiynu’r drefn go iawn.
...safonau dwbl
Cymharir hynny gyda Abby Martin, y cylchgronnydd o Washington ar Russia Today gyffrodd cyfryngau’r Gorllewin i grybwyll Russia Today am newid drwy gondemnio Rwsia (yn eitha di-ddeall fel y cydnabyddodd ei hun) dros y Crimea.
Ond yn wahanol i Greg Dyke ac Andrew Gilligan, mae Abby dal yn gweithio i Russia Today, a dyma ei rhaglenni yn dilyn ei sylwad yn son am y difyrwch, y rhagrith a’r diffyg cydbwysedd.
http://rt.com/shows/breaking-set-summary/ukraine-conflict-perspectives-usa-885/
http://rt.com/shows/breaking-set-summary/oscars-drones-strikes-aipac-338/
Ar y llaw arall, roedd Liz Wahl yn bendant yn ymddeol o Russia Today i ddangos ei phrotest, oedd yn fel ar fysedd y ‘gorllewin’ wrth gwrs. Dyma stori CNN http://edition.cnn.com/2014/03/05/world/europe/russia-news-anchor-resigns/
Yna daeth gwendid y cyrff cyfryngau newydd sy’n gweithio dros ryddid a democratiaeth i’r amlwg wrth i’r Foreign Policy Initiative dynnu lluniau o ddathlu gyda Liz. Mae brwdfrydedd weithiau’n gaffaeliad. Ond weithiau hefyd yn broblem.
http://www.truthdig.com/images/eartothegrounduploads/BjIxwJqCQAARO4S-liz-wahl-group-590.jpg
A dyma Liz mewn hunlun, neu’r ‘Freedom Selfie’ fel y galwont, gyda James Kirchick o’r FPI, lwyddodd i gyhoeddi cyfweliad gyda Liz lai nag awr ar ol iddi ymddeol. Roeddent hefyd wedi llwyddo i drydaru fod rhywbeth mawr am ddigwydd ar Russia Today chwarter awr cyn i Liz ymddiswyddo.
http://www.truthdig.com/images/eartothegrounduploads/the-freedom-selfie-300.jpg
Pwrpas yr FPI yw i greu propaganda ar gyfer gwthio buddianau America ac ymosod ar y rhai allai wrthwynebu’r buddianau hynny, yn bennaf Rwsia a Tseina, fel gwelir ar eu gwefan eu hunain http://www.foreignpolicyi.org/about. Debyg na fydd Liz yn seinio’r dol.
Iran
Yn 1953 daeth llywodraeth a daflodd y cwmniau olew allan er mwyn defnyddio’r adnoddau i wasanaethu eu pobl, Anglo-Iranian Oil (oedd fe synnwch yn fwy eingl ei elw nac Iranaidd). Enw’r cwmni heddiw yw BP. Gyda gwladoli’r diwydiant i fudd y wlad yn gwbl annerbynniol fe aeth America a Phrydain dan Churchill at waith.
Yn adlewyrchu digwyddiadau heddiw’n hynod o daclus, roedd y cynllwyn i feddianu pwer yn Iran yn dibynnu llawer ar baratoi trylwyr, ond yn fwy ar arian i lwgrwobrwyo swmp digonol o olygyddion papur newydd, gweinyddwyr, pennaethiaid diwydiant, uwch swyddogion y fyddin a’r heddlu i neidio pan ddaeth yr arwydd. A’r BBC ddarparodd hwnnw drwy eu darllediad radio Persaidd yn Iran. ‘Mae hi rwan yn ddeuddeg yn Llundain’ oedd y frawddeg arferol. Y trefniant oedd fod y dymchwel yn digwydd os oedd y BBC yn dweud ‘Mae hi rwan yn UNION ddeuddeg yn Llundain’, A felly y bu wrth i filoedd ymgasglu ar strydoedd Tehran wedi’r bwletin, yn hollol ddi-eidioleg onibai am y $1miliwn fuddsoddwyd gan y CIA a’r £1.5miliwn fuddsoddwyd gan MI6 fel cyflog iddynt. Wrth gofio am $5biliwn Victoria Nuland i ‘symud Yr Iwcrain i’r cyfeiriad cywir’ y dyddiau hyn fe welir nad oes cymaint a hynny yn newid. Ond yn ddigamsyniol mi roedd y BBC yn rhan o’r plot.
At heddiw, a’r ymgyrch hir-dymor i brotreadu Iran fel Y Peryg Mwyaf. I’r anffodus rai sydd wedi clywed ymdriniaeth BBC Radio 4 a’r newyddion adlewyrchir hyn yn wych, lle mae’r ystod o farn yn mynd o ‘ymosod ar Iran rwan gan eu bod yn gwneud bom i’n lladd ni i gyd’ i ‘nawn ni drio perswadio nhw i stopio adeiladu’r bom sydd am ein lladd ni gyd am ychydig cyn eu bomio’. Mae Radio 4 yn gwneud i Question Time ymddangos fel cyfarfodydd Fidel Castro a Che Guevara. Gwelwyd hynny yn y sioc a’r adwaith anghrediniol ddilynodd y bore pan fu i’r golygydd gwadd PJ Harvey wahodd Julian Assange, Mark Curtis a John Pilger fel gwesteuon.
Gogledd Corea
A’r stori ddiweddaraf o Ogledd Corea? `RHAID I BOB DYN GAEL GWALLT FEL YR ARWEINYDD’. http://www.bbc.co.uk/news/blogs-news-from-elsewhere-26747649
Yn union fel y stori am Reolwr Tim Cwpan y Byd Gogledd Corea’n cael ei yrru i ‘gulag’, yr adroddwyd arno mor drylwyr nes fod Mark Lawrenson ar Match of the Day yn myllio ar y wlad wallgo, daeth y stori o Radio Free Asia, fel pob stori gelwyddog arall am Ogledd Corea. Aeth newyddiadurwr o dramor i dy’r rheolwr i siarad a’i wraig druan am yr uffern oedd ei gwr yn mynd drwyddo. Atebwyd y drws gan y Rheolwr.
Gallwch gymryd y stori ddiweddaraf gyda bwced o halen felly, fel yr amlinella’r blogiwr yma o’r Washington Post http://www.washingtonpost.com/blogs/worldviews/wp/2014/03/26/are-the-men-of-north-korea-really-being-forced-to-get-kim-jong-un-haircuts/
Y cyntaf i ailadrodd stori Radio Free Asia ym Mhrydain, eto, oedd y BBC, fel pwyntia’r Independent http://www.independent.co.uk/news/weird-news/north-korean-men-ordered-to-get-kim-jong-uns-haircut-9216998.html
Venezuela
Mae’r casineb mae llywodraethau Prydain ac America’n ei ddangos i’r arweinydd presennol, Maduro, yn deillio o’r pardduo diderfyn o Hugo Chavez wrth iddo daflu cwmniau’r gorllewin o’r wlad a defnyddio’r adnoddau naturiol i geisio gwella bywyd trigolion Venezuela yn hytrach na chyfoethogi BP a Monsanto ayyb. Dyma ddadansoddiad trylwyr o ogwydd y BBC (a’u galw cyson o Chavez yn unben). http://www.newsunspun.org/blogpost/the-editors/13-years-of-bbc-reporting-on-venezuelas-hugo-chavez
Heddiw, yn adlewyrchu’r hyn sydd wedi digwydd yn yr Iwcrain, mae ciweidiau adian dde’n cael eu cyflogi i greu helynt, tra mae myfyrwyr yn cael eu defnyddio fel y siaradwyr a’r blogwyr i grio. Heb os fe welwn fwy o newyddion creadigol yn y misoedd i ddod.
Yn wir, bygythwyd CNN o’r wlad bythefnos yn ol am greu darlun eithriadol o unochrog o’r ‘protestiadau’ hyn. Yn arddangos cymaint o ffasgwyr yw’r gyfundrefn, mi gafont aros i barhau a’u hadroddiadau a’u cynlluniau. I gydfynd, mae senedd yr Unol Daleithau wedi pasio sancsiynau ar Venezuela, newyddion sydd ar goll braidd wrth i’w cynlluniau yn yr Iwcrain ddwyn ffrwyth.
http://www.globalresearch.ca/documented-us-coup-plan-for-venezuela-2013/5357432
Vietnam
Profodd y BBC’n well cefnogwyr i ymosodiad America ar Vietnam na’u llywodraeth eu hunain, gan wrthod, er enghraifft, darlledu adroddiad y gohebwyr James Cameron a Malcolm Aird ar y bomio dibendraw o bobl gyffredin yng ngogledd y wlad gan awyrlu Kissinger a Nixon.
Streic y Glowyr
Yn, o bosib, yr enghraifft mwyaf digywilydd o’r ochri rheolaidd ddangoswyd ar y frwydr rhwng Thatcher a’r glowyr yng nghanol yr 80au mae’r celwydd yma sy’n profi nad yw’r camera’n adrodd yr holl stori. Roedd yr eitem fawr o frwydr Orgreave yn rhoi’r argraff mae’r Streicwyr wnaeth ymosod ar yr Heddlu. Newidwyd trefn y gwrthdaro fel ei fod yn ymddangos mai’r glowyr ymosododd ar yr heddlu.
Iwerddon
Yn ogwydd amlwg y BBC ar lofruddiaethau Gogledd Iwerddon, roedd stori fawr yn condemnio i’r entrychion pob tro oedd yr IRA yn gweithredu. Os clywyd y frawddeg ‘there’s been another sectarian murder’ ar ddiwedd y newyddion ar aml i dro, heb bwyntio bai, gellid cymryd yn ganiataol mai’r terfysgwyr teyrngarol Prydeinig oedd wedi bod wrthi.
Awn yn ol at ddechreuad y `trafferthion` fel y’u gelwir, a phrofiad eu gohebydd Martin Bell yn 1969. Roedd yn gweld fod yr holl drais ym Melffast i gyd yn dod o un ochr, y teyrngarwyr yn ymosod ar y Catholigion. Cafodd orchymyn gan Reolydd BBC Gogledd Iwerddon y pryd nad oedd i adrodd y fath beth. Roedd rhaid iddo ddweud fod y trais o’r ddwy ochr cyn waethed a’u gilydd neu fynd i seinio’r dol.
Yn unigryw, roedd rhaid i bob darllediad newyddion o’r dalaith dros y dwr basio trwy yr haen uchaf o reolwyr y BBC. Newidwyd, gohirwyd neu dileuwyd yn gyfangwbl gan fosys y BBC dros 60 o raglenni neu eitemau newyddion gan eu staff eu hunain o’r gogledd o Iwerddon.