Mae’r ddynes 80 oed sy’n actio ‘Rita’ yn Coronation Street wedi cael ei arestio am yfed a gyrru.

Cafodd Barbara Knox ei harestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad yn ei gorsaf heddlu leol yn Knutsford, Sir Gaer.

Aeth i’r orsaf heddlu wedi i’w merch, Maxine Ashcroft , 56, gael ei harestio’n gynharach yr un diwrnod am yr un drosedd.

Roedd y ddwy ar eu ffordd adref ar ôl bod allan am y prynhawn pan gafodd y car oedd ei merch yn gyrru ei stopio gan yr heddlu, yn ôl The Sun.

Yn ôl y papur newydd roedd Barbara Knox yna wedi gofyn i’r heddlu a oedden nhw’n gwybod pwy oedd hi.

Mae hi wedi cael ei gorchymyn i ymddangos yn Llys Ynadon Macclesfield ddydd Mercher.

Eleni fe fydd hi’n dathlu hanner canrif ers iddi ymddangosodd gyntaf ar yr opera sebon – fel dawnswraig egsotig.

Dywedodd llefarydd ar ran Coronation Street bod y digwyddiad yn fater personol.