Un o'r gweithiau buddugol y llynedd
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi amddiffyn y drefn o ddewis gwaith celf ar gyfer yr arddangosfa fawr yn y Brifwyl, ar ôl beirniadaeth gan Gyngor y Celfyddydau.

Mae’r swyddog celf, Robyn Tomos, wedi ymateb i adroddiadau ar y BBC fod aelodau o’r Cyngor yn anhapus gyda safon yr arddangosfa, yn arbennig y llynedd.

Ond, yn ôl Robyn Tomos, mae’r gweithiau’n cael eu dewis trwy broses agored, gan dri dewiswr annibynnol a does yna ddim bwriad i newid hynny.

Y cefndir

Yn ôl y BBC, roedd rhai aelodau o’r Cyngor wedi awgrymu bod arddangosfa’r Lle Celf fel cam cynta’ i artistiaid oedd newydd adeg coleg ac roedden nhw eisiau i “gyfeiriad artistig” yr arddangosfa fod yn amod ar gyfer y grant o £75,000 y mae’r Brifwyl yn ei gael ganddyn nhw.

Yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae yna gwynion wedi bod ar Faes yr Eisteddfod fod y gweithiau yn yr arddangosfa’n rhy ddieithr ac roedd dadlau y llynedd am fod Saesneg wedi ei defnyddio yn rhai o’r gweithiau.