Dylan Thomas
Mae gwefan newydd sy’n seiliedig ar waith y bardd Dylan Thomas wedi cael ei lansio i blant.

Mae’r wefan ‘Bardd Roc a Rôl’ yn cynnwys gwersi ar amryw elfennau o’i waith, yn ogystal ag adnoddau cysylltiedig i ddisgyblion ac athrawon.

Trwy linell amser rhyngweithiol, mae modd i ddefnyddwyr ddysgu mwy am fywyd a gwaith Dylan Thomas, ac mae’n cynnwys gwybodaeth am rai o’r prif ddylanwadau ar ei lenyddiaeth.

Fel rhan o’r prosiect, fe fydd ap amlblatfform ar gael i’w lawrlwytho, ac mae’n cynnwys gwybodaeth am y gweithiau ‘The Hunchback in the Park’ a ‘Refusal to Mourn’.

Dathlu canmlwyddiant

Bydd yr ap ar gael yn rhad ac am ddim trwy’r iPhone, Android a Windows ac amryw dabledi.

Bydd cyfle hefyd i glywed y bardd ei hun yn darllen ei waith, ac mae nodiadau wedi cael eu hysgrifennu a fideos wedi’u cynhyrchu i fynd gyda’r cerddi.

Cwmni Telesgop sy’n cydlynu’r prosiect sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y wefan, pwrpas y prosiect yw “sicrhau etifeddiaeth i flwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn Abertawe”.

Mae modd gwylio’r fideo sy’n hyrwyddo’r prosiect trwy fynd i wefan YouTube, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy fynd i wefan y prosiect.