Mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd wedi beirniadu’r awdurdodau darlledu am fethu sicrhau bod modd i bobol yng ngogledd-ddwyrain Cymru dderbyn S4C.
Daw ei ymateb yn dilyn cwyn gan un o’i etholwyr oedd yn dweud nad oedd modd gwylio S4C ar un o wardiau’r ysbyty.
Wrth ymateb i’r gwyn, dywedodd Llŷr Gruffydd: “Er sawl ymgyrch, does dim golwg fod yr awdurdodau darlledu am flaenoriaethu hyn.
“Mae derbyn S4C a sianeli Cymreig wedi bod yn broblem yn y gogledd-ddwyrain ers lansio’r sianel oherwydd trosglwyddydd annigonol yn ardal Wrecsam.”
Yn dilyn y gwyn at Llŷr Gruffydd, ymatebodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr trwy ddweud eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater ond nad oes sicrwydd y bydd modd iddyn nhw ddatrys y sefyllfa.
‘Cymhleth’
Yn y llythyr, dywed y bwrdd: “Mae darparu gwasanaethau teledu’n fater cymhleth.
“Does dim polisi gan y Bwrdd Iechyd ynghylch mynediad i sianeli teledu.”
Ychwanegodd y bwrdd fod y ddarpariaeth yn amrywio yn ôl ble yn yr ysbyty mae’r claf.
Mae wardiau sy’n agos at drosglwyddydd Wrecsam Rhos yn derbyn S4C, ond mae’r rheini sy’n wynebu trosglwyddydd Winterhill yn derbyn sianel ranbarthol Gogledd-Orllewin Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: “Mae swyddogion y bwrdd iechyd wedi bod yn ymchwilio i newidiadau y gellir eu gwneud a fyddai’n helpu’r sefyllfa; fodd bynnag, mae’n bosib na fydd hyn yn ymarferol o ystyried gosodiad yr Ysbyty ac fe allai gostio’n ychwanegol.”
‘Siomedig’
Dywedodd Llŷr Gruffydd fod ymateb Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn “siomedig”.
Ychwanegodd: “Does dim awydd i drio datrys y broblem hyd y gwela i ac mae’n arwydd o faint o waith sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau fod y gogledd-ddwyrain yn cael ei drin fel rhan annatod o Gymru sy’n llawn haeddu medru cael sianelau teledu Cymreig yn hytrach na newyddion Manceinion neu Birmingham.”