Blogwraig cerddoriaeth golwg360 Hannah Roberts sydd wedi bod yn holi Bethan Elfyn ynglŷn â chynllun Gorwelion arloesol y BBC …

Eleni fe fydd y BBC, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, yn lansio cynllun newydd o’r enw Gorwelion/Horizons – cynllun fydd yn datblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru.

Maent yn bwriadu yn cyflawni hyn drwy gynlluniau sydd yn buddsoddi mewn talent gerddorol newydd yng Nghymru, gan ymrwymo i ddarlledu cerddoriaeth newydd o fwy o ddigwyddiadau.

Yn ogystal â hynny, fe fyddan nhw’n uno mwy o gynnyrch cerddoriaeth newydd BBC Cymru ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales dan frand Gorwelion, er mwyn rhoi mwy o sylw i artistiaid ger bron cynulleidfaoedd newydd.

Gan fod y syniad mor newydd fe ofynnais i gyflwynwraig radio’r BBC Bethan Elfyn ynglŷn â’r cynllun, er mwyn cael gwell syniad am ei hamcanion a phwy sydd yn cymryd rhan:

Hannah Roberts: Pam mae’r cynllun hwn mor bwysig?

Bethan Elfyn: Mae’n bwysig ac yn arloesol. Mae’n newid y ffin rhwng beth mae BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi gwneud yn y gorffennol, sef adlewyrchu cerddoriaeth.

Yn y cynllun yma ni’n gobeithio defnyddio ein profiad, ein cysylltiadau – ni’n fwy ‘hands on’, fe fyddwn yn hyrwyddo, hybu, gwthio, annog, cynnig cyngor, a bod yn gefn. Mae’n sialens newydd i ni ac i’r bandiau.

Mae’r cyfleoedd yn amrywiol ac ni’n edrych ymlaen at weld amrywiaeth o dalent Cymru yn cael ffenestr fach i gael profiadau a chyfleoedd newydd.

HR: Pwy sy’n helpu rhedeg y cynllun?

BE: Mae nifer o bobl yn helpu rhedeg y cynllun; swyddog o Gyngor Celfyddydau Cymru, rheolwr prosiect o BBC Cymru, cynhyrchwyr ac ymchwilwyr BBC Radio Cymru, a BBC Radio Wales, a nifer o bobl â’u sgiliau gwahanol o gwmpas BBC Cymru a thu allan.

Fe fyddwn ni hefyd yn gweithio yn agos iawn efo hyrwyddwyr cerddorol a gwyliau cerddorol Cymru.

HR: Pam datblygodd y cynllun hwn?

BE: I geisio cydlynu gweithgaredd gerddoriaeth newydd y ddwy orsaf radio mewn ffordd newydd, a gwneud rhywbeth newydd arloesol i hybu cerddoriaeth Cymru.

HR: Beth yw amcan y cynllun?

BE: Mae tair elfen i’r cynllun. 1) Hyrwyddo cerddorion trwy ddewis 12 artist i gael sylw arbennig dros 12 mis; 2) Gweithio i hybu cerddoriaeth Gymreig yng Ngwyliau Cymru; a 3) Ffynhonnell cronfa lansio – mwy o wybodaeth am hyn erbyn diwedd y flwyddyn.

HR: Pwy ydych chi’n targedu?

BE: Ni’n chwilio am amrywiaeth o artistiaid yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol.

HR: Pwy fydd yn mwynhau clywed am Gorwelion?

BE: Gobeithio mai pobl sy’n hoffi cerddoriaeth, a chynulleidfa fwy cyffredinol hefyd o bob oedran.

HR: Ym mha ffyrdd eraill y bydd y cynllun hwn yn cefnogi’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru?

BE: Yn ogystal â’r 12 artist sy’n cael eu dewis, dwi’n siŵr fe fydd nifer o bethau yn helpu bandiau Cymru mewn ffordd fwy cyffredinol, er enghraifft, trwy ein blog efo erthyglau gan westeion arbennig ar elfennau o’r diwydiant cerddoriaeth.

Ar rhai o lwyfannau Gorwelion fe fydd artistiaid lleol i’r ardal hefyd yn cael cyfle i chwarae yn ogystal â’r bandiau dethol o’r cynllun.

Mae’n gynllun peilot dwy flynedd, a dwi’n siŵr byddwn ni’n dysgu lot o’r flwyddyn gyntaf – ond ar y funud rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn o’n blaen, a chwrdd â’r 12 artist cyntaf i fod yn rhan o Gorwelion.

Mae’r cynlluniau hyn yn gam da tuag at annog ein talent yng Nghymru.  Mae’n darparu cyfle gwych i ennill eich lle yn y diwydiant. Os oes diddordeb gyda chi, byddwn i’n eich annog chi i geisio.

Cofiwch fod y cynllun hwn yn derbyn grwpiau Saesneg yn ogystal â grwpiau Cymraeg. Dwi’n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn llwyddiannus ac yn gwthio’n diwydiant cerddorol.

Os oes diddordeb gyda chi i geisio, mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau’r bandiau ar Fawrth 31, ac mae angen i bob band lwytho cerddoriaeth i BBC Introducing ac e-bostio llythyr cais at gorwelion@bbc.co.uk.

Pob lwc i bob un ohonoch chi sydd yn bwriadu ceisio!