Betsan Powys
Mae pennaeth BBC Radio Cymru wedi dweud fod prosiect newydd yr orsaf i gyflogi bardd preswyl yn un “cynhyrfus ac unigryw.”
Bydd gan Radio Cymru fardd preswyl gwahanol bob mis a fydd yn ymateb i straeon a sgyrsiau’r orsaf ar ffurf cerddi.
“Dwi’n gobeithio y bydd eu hymwneud creadigol nhw â’r orsaf yn cyfoethogi’r hyn ry’n ni’n ei gynnig,” meddai Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys.
Mae’r prosiect yn dechrau fis Ebrill a’r beirdd dros y tri mis cyntaf fydd Llŷr Gwyn Lewis, Karen Owen a Llion Jones.
“Mae hi’n gyfnod cyffrous dros ben i Radio Cymru wrth i’r orsaf gynnig amrediad o raglenni a chyflwynwyr newydd,” meddai Llŷr Gwyn Lewis.
“Gobeithio y gallaf ymateb i’r pethau sydd wedi denu fy sylw neu ennyn fy chwilfrydedd, boed hynny’n gân ar un o raglenni C2 neu’n ddadl frwd ar Taro’r Post.
“Fydda i ddim yn oedi chwaith rhag ymateb mewn ffyrdd mwy uniongyrchol, os byddaf yn anghytuno â rhyw sylw neu bod rhywbeth yn codi gwrychyn. Cyn belled â’i fod yn esgor ar gyfle i sgwennu, rydw i’n edrych ymlaen yn arw at y cyfle i wrando, ymateb, a chyfansoddi.”