35 Diwrnod Llun: S4C
Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod pennod gyntaf ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.
Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio’r bennod gyntaf…
Wyddwn i ddim amdanoch chi ond fyswn i ddim yn mwynhau byw ar ystâd dai Crud yr Awel.
I ddechrau, mae pawb yno’n hynod o amheus; yn ail, mae diffyg golau ofnadwy yn y tai mawr ‘na; ac yn drydydd, wel, yn amlwg, mae rhywun yn mynd i farw mewn 35 diwrnod.
Rydyn ni’n gwybod pwy sy’n mynd i farw, ac wedi gweld y corff, ond doedd y bennod gyntaf neithiwr ddim am y person sy’n cael ei lofruddio.
Yn hytrach, roedd hon yn bennod oedd yn plannu hedyn o amheuaeth am bron iawn pob un o’r cymeriadau – ar wahân i Linda Morgan, gwraig newydd Tony Morgan, o bosib – ond rwy’n siŵr bod ganddi hi gyfrinach neu ddau i’w ddatgelu, hefyd.
Boddi o dan sgerbydau
A dyna sut ddechreuodd drama ddirgelwch newydd S4C, cyfres sy’n gaddo rhoi bywyd swbwrbia o dan y chwyddwydr. Hynny ydi, os mai’ch syniad chi o swbwrbia ydi Brookside Close.
Mae rhywun yn cael y teimlad y byddwn ni’n boddi o dan sgerbydau’r cymeriadau erbyn diwedd y gyfres ac roedd y bennod gyntaf yn fy atgoffa o’r gyfres Americanaidd, ‘Desperate Housewives’, i raddau, ond heb yr haul. Gwers i unrhyw un nad yw symud i ddistawrwydd swbwrbia yn syniad da.
Digwyddodd dipyn yn y bennod gyntaf gyda’r heddlu yn chwilio tŷ Huw James, a’i wraig Caroline, am gyffuriau; perthynas od Richard Jenkins gyda chariad ei fab, a gyda gweddill ei deulu; bywyd cudd Gruff Morris yn ei sied a phroblemau dybryd ei fab Ben Morris; heb son am y cwpl priod newydd a’u perthynas gyda Pat.
Ond, er hynny, roedd y bennod i’w gweld yn symud yn ofnadwy o araf. Os mai prif etifeddiaeth dramâu tywyll scandi-noir yw edrychiad oediog y camera dros dir anial neu goedwig heb ddail, yna hoffwn gymryd y cyfle yma i ddyfynnu Monty Python a dweud: “Get on with it!”
Gawn ni weld sut fydd y gyfres yn datblygu dros yr wythnosau nesa ond oes unrhyw un ohonoch chi ddarllenwyr golwg360 yn barod i ddyfalu pwy yw’r llofrudd ar ôl y bennod gyntaf?
Na fi chwaith.
Person amheus yr wythnos
Ble i ddechrau? Roedd pawb yn actio’n amheus rhyw ben yn ystod y bennod ond mae’r wobr yr wythnos hon yn mynd i Melodi, y ferch fach. Os yw blynyddoedd o wylio teledu a ffilmiau wedi dysgu unrhyw beth i mi, peidio ymddiried mewn plentyn ar dreisicl yw hynny.
Moment yr wythnos
Doedd Matthew Gravelle yn dda fel Pat? Perfformiad cryf iawn ganddo a da gweld cymeriad trawsrywiol ar ddrama S4C hefyd. Mae moment yr wythnos hefyd yn mynd i Pat gyda’r llinell ddihafal: “Sausage, unrhywun?”