Lora Llwyd Thomas
Mae’n deg dweud i ddechrau fod llwyddiant y ffilm hon yn yr Oscars yn ddiweddar yn gwbl haeddiannol, ac yn adlewyrchu campwaith. Enillodd Matthew McConaughey yr Oscar am yr Actor Gorau am ei gymeriad Ron Woodroof, sydd yn dioddef o HIV ac yna’n mynd yn erbyn cyngor y doctoriaid er mwy ceisio ymestyn ei fywyd.

Jared Leto aeth ar wobr am yr Actor Cynorthwyol Gorau am ei gymeriad Rayon, sydd yn drawsrywiol ac yn gaeth i gyffuriau a oedd hefyd yn dioddef o AIDS ac sydd yn ddigon parod i helpu Woodroof gyda’i gynlluniau.

Wedi ei gyfarwyddo gan Jean-Marc Vallee, mae’r ffilm yn dilyn Woodroof, a’i frwydr i gael meddyginiaeth i drin ei afiechyd.

Ar ôl gwneud gwaith ymchwil ar ei afiechyd a’r feddyginiaeth sydd ar gael ar draws y byd, mae’n darganfod cyffuriau sydd yn gwella’i symptomau ac yn smyglo’r cyffuriau anghyfreithlon i Tecsas.

Er mwyn helpu cymaint o bobl â phosib mae’n sefydlu’r “Dallas Buyers Club” gyda help Rayon. Mae’r ffilm yn dilyn y newid yn iechyd a chymeriad Woodroof wrth fyw gyda’i afiechyd, a’i frwydr gyda’r FDA (Food and Drug Administration) i gael cymryd y cyffuriau a’u didoli i eraill.

Blynyddoedd o ddwyn ffrwyth

Coeliwch neu beidio mae’r ffilm yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn.

Cyhoeddwyd erthygl yn 1992 yn “The Dallas Morning News” oedd yn adrodd hanes Woodroof. Mis cyn iddo farw ym mis Medi 1992, aeth y sgriptiwr Craig Borten i gyfweld ag ef er mwyn creu’r sgript.

Ac yng nghanol y 90au, aeth ati i geisio cael cyllid i wneud y ffilm, gyda Dennis Hopper yn cyfarwyddo a Woody Harrleson fel Woodroof – ond roedd yn aflwyddiannus.

Yn hwyr yn y 90au, gofynnwyd i Marc Foster i gyfarwyddo gyda Brad Pitt yn chwarae rôl Woodroof, cyn sôn yn 2008 y byddai Craig Gillespie yn eistedd yn y gadair fawr gyda Ryan Gosling yn chwarae’r brif ran.

Felly mae wedi bod yn broses hir tu hwnt i fynd ati i ffilmio’r stori.

Trywydd newydd McConaughey

Ar ddechrau’r ffilm roeddwn yn canolbwyntio ar newid corfforol Matthew McConaughey, a’r ffaith ei fod yn edrych, i fod yn onast, yn ofnadwy! Nid yr actor rydym ni wedi arfer glafoerio drosto mewn “rom coms”, fel The Wedding Planner (2001) a How to Lose a Guy in 10 Days (2003).

Ond ers 2010 symudodd i ffwrdd o’r math  yna o ffilmiau, gan nodi mewn cyfweliad ei fod eisiau rhannau mwy heriol. Penderfyniad da iawn i’w yrfa yn fy marn i. Mae ei berfformiad yn Dallas Buyers Club yn gwbl anhygoel, gan i mi gredu yn llwyr rwystredigaeth y cymeriad a’i angerdd i fyw.

Doeddwn i ddim wedi sylwi yn syth mai Jared Leto oedd yn chwarae rhan Rayon. A dwi ddim yn meddwl mod i wedi gweld ffilm sy dd â dyn neu ddynes drawsrywiol yn chwarae rhan mor flaenllaw yn y  ffilm.

Datblygu’r cymeriad

Roeddwn yn hoff o sut roedd perthynas Woodroof a Rayon yn datblygu drwy gydol y ffilm. Mae’n ochr hyfryd i’r ffilm – sut y gall rhywun fod mor feirniadol tuag at berson, heb i un nabod y llall yn gyfan gwbl.

Teimlaf fod Woodroof wedi cael pwrpas i’w fywyd ar ôl iddo gael yr afiechyd HIV. Gwelwn ar ddechrau’r ffilm bod ei fywyd yn edrych yn un digon arferol, gyda dim ond y ‘rodeo’ i edrych ‘mlaen ato. A chlyfar iawn oedd gwerthu aelodaeth i’r Dallas Buyers Club yn hytrach na’r cyffuriau. Ac fe weithiodd am amser.

Efallai bod dim gymaint o sôn am Dallas Buyers Club o’i gymharu â Gravity neu 12 Years A Slave, ond ar ôl i’r ddau brif actor fachu Oscars eleni, dwi’n gaddo na chewch chi’ch siomi!

Marc: 8/10

Gallwch ddilyn Lora ar Twitter ar @lorallwyd.