Mae’r achos llys yn erbyn y terfysgwr honedig a lofruddiodd yr Aelod Seneddol Syr David Amess wedi’i ohirio am y tro ar ôl i dri aelod o’r rheithgor brofi’n positif am Covid-19.

Roedd disgwyl i’r achos dros amddiffyn Ali Harbi Ali ddechrau yn yr Old Bailey yn Llundain heddiw (Mawrth 28).

Fodd bynnag, fe wnaeth y barnwr ohirio’r achos am wythnos ar ôl cael gwybod bod aelodau o’r rheithgor yn sâl.

Wrth siarad gyda’r naw aelod arall o’r rheithgor, ymddiheurodd y barnwr wrth ddweud bod yr achos wedi’i “ohirio”, ond nad oedd wedi dod i derfyn.

“Mae tri yn eich plith wedi profi’n bositif, un dros y penwythnos a dau arall fore heddiw, ac o ganlyniad rydyn ni wedi gorfod gohirio’r achos – nid rhoi terfyn arno.

“Dw i wedi’i ohirio tan ddydd Llun nesaf. Erbyn dydd Llun, dw i’n gobeithio ei bod hi’n ymarferol y byddan nhw’n well ac mae hynny’n golygu na fydd gofyn i chi fod yn y llys hwn, ar ôl i fi orffen, tan ddydd Llun nesaf.

“Dw i’n mynd i ofyn i chi beidio mynd i’r gwaith oni bai eich bod chi’n teimlo eich bod chi wirioneddol methu (ei osgoi) am y rheswm hwn – dw i eisiau cadw’r risg bod unrhyw un ohonoch chi’n profi’n bositif rhwng nawr a dydd Llun nesaf mor isel â phosib.

“Fel y gallwch chi ddychmygu, gydag achos mor bwysig â hwn mae hi’n hanfodol bwysig ein bod ni’n cynnal rheithgor o ddeuddeg os gallwn ni.

“Fel mae heddiw wedi dangos yn glir, mae Covid yn drwch ar y funud.”

Dywedodd y barnwr y byddai staff y llys yn cadarnhau gyda’r rheithgor ddydd Gwener bod disgwyl iddyn nhw ddychwelyd i’r llys ddydd Llun.

Mae Ali Harbi Ali wedi cael ei gyhuddo o drywanu David Amess, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Southend West, i farwolaeth mewn cymhorthfa yn Leigh-on-Sea fis Hydref llynedd.

Mae’r diffinydd, o Kentish Town yng ngogledd Llundain, yn gwadu ei lofruddio ac yn gwadu paratoi gweithredoedd terfysgol.

Cyhuddo Ali Harbi Ali o lofruddio Syr David Amess

Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dadlau bod cymhelliant brawychol i’w lofruddiaeth