Mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi dweud y byddai ei lywodraeth yn ystyried datgan niwtraledd a chynnig sicrwydd diogelwch i Rwsia, gan gynnwys cadw Wcráin yn ddi-niwclear.

Dywedodd wrth newyddiadurwyr annibynnol o Rwsia y byddai’n rhaid cynnal refferendwm ymysg poblogaeth Wcráin ar niwtraledd, ac ar gytuno i gadw allan o Nato, ar ôl i filwyr Rwsia adael y wlad.

Gallai’r bleidlais ddigwydd o fewn ychydig fisoedd ar ôl i filwyr Rwsia adael, meddai Volodymyr Zelenksy.

Mae Rwsia wedi gwahardd y cyfweliad rhag cael ei gyhoeddi, gan ddweud ei bod hi’n bosib y bydd gweithredu yn erbyn y darlledwyr oedd yn rhan o’r cyfweliad.

Wrth ymateb, dywedodd Volodymyr Zelensky bod Moscow ofn trafodaeth gymharol fyr gyda newyddiadurwyr.

“Byddai’n ddoniol pe nai bai mor dychinebus,” meddai, yn ôl asiantaeth newyddion Wcráin, RBK Ukraina.

Dywedodd hefyd mai blaenoriaethau Wcráin yn ystod y trafodaethau gyda Rwsia yn Nhwrci’r wythnos hon fydd “sofraniaeth ac uniondeb tiriogaethol”.

“Rydyn ni’n chwilio am heddwch, mewn gwirionedd, heb oedi,” meddai.

“Mae yna gyfle ac angen am gyfarfod wyneb yn wyneb yn Nhwrci. Dyw hyn ddim yn ddrwg. Gadewch i ni weld beth fydd y canlyniad.”

“Byddaf yn parhau i apelio i seneddau gwledydd eraill” yr wythnos hon, ychwanegodd, gan eu hatgoffa o’r sefyllfa drychinebus mewn trefi fel Mariupol.

Sylwadau Joe Biden

Yn y cyfamser, mae Canghellor yr Almaen, Olaf Scholz, wedi dweud nad yw Nato nag Arlywydd yr Unol Daleithiau’n bwriadu trio gwneud newidiadau i weinyddiaeth Rwsia.

Yn ystod araith dros y penwythnos, dywedodd Joe Biden na all Vladimir Putin aros mewn grym. Mae’r Tŷ Gwyn wedi cadarnhau nad oedd Joe Biden yn galw am gael gwared ar Putin fel Arlywydd Rwsia.

“Nid hyn yw amcan Nato, nag amcan arlywydd America,” meddai Olaf Scholz wrth ddarlledwyr ARD yn yr Almaen.

“Rydyn ni’n dau’n cytuno’n llwyr nad yw newid y llywodraeth yn amcan nag yn nod yn y polisi rydyn ni’n mynd ar ei ôl gyda’n gilydd.”

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, wedi dweud nad oedd sylwadau Joe Biden am safle Putin yn ddefnyddiol.

Dywedodd wrth LBC, “Dim yn ddefnyddiol, i ddweud rhywbeth, i ddadlau’n ôl – peth mawr i’w ddweud, am resymau amlwg.”