Mae angen i Lywodraeth Cymru gynyddu’r gwariant ar gyfer gofal deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Cyn y pandemig, roedd Llywodraeth Cymru’n gwario £47 y pen ar ofal deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu “ei bod hi’n amser buddsoddi’r un faint ag sy’n cael ei fuddsoddi yn yr Alban a Gogledd Iwerddon o leiaf”, lle mae’r gwariant yn £55 a £56 y pen.

Yn eu maniffesto yn 2021, fe wnaeth Cymdeithas Ddeintyddol Prydain alw ar Lywodraeth Cymru i “roi stop ar danariannu cronig”, gan dynnu sylw at y bwlch ariannu rhwng Cymru a’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Dydy gwariant Llywodraeth Cymru ar wasanaethau deintyddol heb newid mewn termau real ers 15 mlynedd, a dim ond 15% o ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n derbyn oedolion fel cleifion newydd.

‘Amhosib’ dod o hyd i ddeintydd

Wrth dynnu sylw at y mater yn y Senedd, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei fod wedi clywed gan un athro o Fangor oedd yn dweud ei bod hi’n amhosib dod o hyd i ddeintydd newydd dan y Gwasanaeth Iechyd ar ôl i’w ddeintydd ei hun stopio gwneud triniaethau dan y Gwasanaeth Iechyd.

Pan ffoniodd wahanol ddeintyddion ym Mangor, Porthaethwy, Llandudno, Penmaenmawr, Bae Colwyn, Caernarfon, a nifer o drefi eraill yn y gogledd orllewin, clywodd y byddai ar restr aros am ddwy flynedd, o leiaf.

O ganlyniad, bu’n rhaid iddo fynd yn breifat a gwario dros £1,164 ar dair triniaeth.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae yna sôn am bobol yn tynnu eu dannedd allan â gefeiliau neu’n gwario cannoedd ar filoedd ar driniaethau preifat gan fod rhestrau aros mor hir neu yn gwrthod derbyn cleifion newydd.

‘Risg o ddymchwel’

Yn y cyfamser, mae Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Lleol Dyfed Powys wedi ysgrifennu at Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru’n esbonio na all deintyddion yr ardal arwyddo’r cytundeb deintyddol newydd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl rhai deintyddion, mae’r cytundeb newydd yn canolbwyntio llai ar wiriadau rheolaidd, yn gwneud i ddeintyddion ddewis rhwng hen gleifion a chleifion newydd, ac yn talu deintyddion ar sail hen ddata am eu perfformiadau.

Mewn llythyr, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Lleol Dyfed Powys bod “pob aelod yn amharod i amharu ar ansawdd gofal eu cleifion, ac felly maen nhw’n barod i gerdded i ffwrdd oddi wrth ddeintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyfan gwbl, oni bai bod y bwrdd iechyd yn barod i ymgysylltu a chytuno ar ddatrysiad ymarferol”.

“Fel grŵp, rydyn ni’n ofnadwy o bryderus bod gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd yng ngorllewin Cymru mewn risg o ddymchwel mor fuan â mis nesaf, gan adael cleifion heb wasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o gwbl, oni bai ei bod hi’n bosib dod i gyfaddawd.”

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, gyfaddef mai tua 70% o driniaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd sydd yn digwydd nawr o gymharu â’r hyn oedd yn bosib cyn Covid.

‘Creu anialwch deintyddol’

Mae pryderon deintyddion a chleifion ar y funud yn “peri pryder”, meddai llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Ar un llaw, mae gennym ni ddeintyddion a chyrff proffesiynol yn dweud eu bod nhw’n cael eu tanariannu gan y Llywodraeth Lafur, ac ar y llaw arall, mae cleifion yn dweud nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad at wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac mae’r cysylltiad yn ymddangos yn amlwg.

“Er ei bod hi’n ddealladwy bod gwasanaethau deintyddol wedi cael eu cwtogi’n ystod y pandemig, siawns ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle y gellir cynyddu’r capasiti i lefelau cyn-Covid nawr bod cynnydd wedi’i wneud efo’r brechlynnau a bod y rheoliadau i gyd wedi dod i ben, bron iawn.

“Yn y cyfamser, mae’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn amlwg yn peryglu creu anialwch deintyddol dros Gymru drwy beidio â mynd i’r afael â’r diffyg buddsoddiad yng ngwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n rhwystro pobol rhag cael mynediad at wasanaethau hanfodol, yn enwedig yn y Gymru wledig.”

‘Ymrwymo i ddiwallu anghenion’

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi “ymrwymo i ddiwallu anghenion cleifion deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru drwy gynnig gofal ataliol a mwy o fynediad”.

“Mae’r diwygiadau contractiol yn cefnogi’r ymrwymiad hwn,” meddai llefarydd ar eu rhan.

“Er bod oedi wedi bod yn achos rhywfaint o’r gwaith hwn oherwydd y pandemig, rydym yn ailgychwyn y rhaglen ddiwygio o fis Ebrill 2022.

“Mae’r rhaglen honno yn canolbwyntio ar gynyddu mynediad i’r rheini sy’n chwilio am ofal deintyddol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Rydym yn croesawu cefnogaeth Cymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddiwygio gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd.

“Gyda Covid-19 yn dal i fod yn y gymuned, nid yw wedi bod yn bosib i weld cymaint o gleifion ag arfer yn sgil mesurau iechyd y cyhoedd – fel cadw pellter corfforol, cyfarpar diogelu personol gwell, a gofynion rheoli heintiau – a gofynnwyd i bractisau drin pobl yn ôl yr angen.

“Ar ben y cynnydd mewn gwariant craidd ar ddeintyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn rhoi hyd at £3m i fyrddau iechyd yn 2021-22 i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd, a £2m yn rheolaidd o 2022-23 ymlaen i gefnogi mwy o ddarpariaeth.”

Plaid Cymru’n mynnu gweithredu ar yr “argyfwng” deintyddiaeth

Mae ffigurau’n dangos bod 83 yn llai o ddeintyddion yn cynnig triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd y llynedd o gymharu â 2020, a 117 llai nag yn 2019

Gofal deintyddol y Gwasanaeth Iechyd “mewn sefyllfa wirioneddol ddifrifol”

Democratiaeth Leol

Nifer sylweddol o ddeintyddion wedi gadael y Gwasanaeth Iechyd rhwng 2019-20 a 2020-21