Bydd corff newydd yn cael ei greu i gefnogi’r gwaith o ddatgarboneiddio diwydiant Cymru.

Yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, bydd Diwydiant Sero Net Cymru’n cefnogi’r gwaith o greu swyddi newydd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y wlad yn dod un sero net erbyn 2050.

Ar hyn o bryd, mae busnesau yng Nghymru yn gyfrifol am tua 20% o allyriadau carbon diwydiannol a busnes cyffredinol y Deyrnas Unedig, yn rhannol oherwydd treftadaeth ddiwydiannol Cymru o fewn y sectorau dur, olew, mwy a chemegau yn y de, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae’n bosib priodoli’r rhan fwyaf o’r allyriadau carbon diwydiannol a busnes hynny’n uniongyrchol i gwmnïau ar hyd coridor yr M4.

Diwydiant Sero Net Cymru

Bydd Diwydiant Sero Net Cymru’n gweithio gyda grŵp o 40 o bartneriaid busnes ac academaidd sy’n gweithredu o fewn ystod o ddiwydiannau ynni-dwys i’w helpu i gyrraedd y targed.

Bydd hyn yn gofyn am ostyngiad blynyddol cyfartalog o 1.3 miliwn tunnell o CO2e yn allyriadau Cymru, o gymharu â lefelau 2018.

Mae blaenoriaethau’r corff newydd yn cynnwys:

  • Galluogi diwydiannau i archwilio cyfleoedd twf economaidd newydd drwy ddod yn arweinydd byd-eang ym maes gweithgynhyrchu carbon isel.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu Economi Gylchol yng Nghymru.
  • Ysgogi ac angora buddsoddiadau newydd i greu a chadw swyddi sgiliau uchel.

Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r corff newydd gyda £150,000 o gymorth ariannol bob blwyddyn am y tair blynedd ariannol nesaf.

‘Cam pwysig ymlaen’

Cyhoeddodd Vaughan Gething y newyddion am sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru wrth ymweld â TATA Steel ym Mhort Talbot, a dywedodd bod cyflymu datgarboneiddio busnesau a diwydiant Cymru yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau sero net erbyn 2050.

“Mae creu Diwydiant Sero Net Cymru yn gam pwysig ymlaen i helpu i gyflawni’r newid hwn, ac mae’n tanlinellu ein hymrwymiad i gefnogi diwydiant yn ne Cymru i ddatgarboneiddio,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

“Roeddwn gyda’r diwydiant Awyrofod yr wythnos diwethaf yn archwilio trosglwyddo technolegau i gefnogi datgarboneiddio yng Nghymru ac yn disgwyl i Ddiwydiant Sero Net Cymru hefyd fod yn ganolbwynt ar gyfer y trosglwyddiad hwn ar draws ein holl weithgynhyrchwyr gwerth uchel.

“Elfen bwysig arall yw cydweithio’n agos â chlystyrau diwydiannol eraill y Deyrnas Unedig i sicrhau y gall Gymru fanteisio ar arfer gorau.

“Heb y gweithredu hwn, ni fydd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cyrraedd ein targedau sero net erbyn 2050.

“Rydym yn cydnabod na allwn sicrhau datgarboneiddio yng Nghymru yn unig. Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod ystod eang o gymorth ar gael i fusnesau a diwydiant Cymru.

“Mae’n hanfodol felly bod yr offer sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru yn addas i’r diben a’u bod yn ddigon hyblyg i gydnabod y prosesau a’r heriau diwydiannol cymhleth sydd i’w cyflawni.”

‘Arloesi’

Dywedodd Pennaeth Datgarboneiddio Diwydiannol Diwydiant Cymru, Dr Chris Williams, bod Cymru’n bwriadu bod yn arweinydd y chwyldro gwyrdd.

“Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn deillio o flynyddoedd lawer o waith caled gan lawer o gwmnïau, Llywodraethau, Prifysgolion a phobol o’r un feddylfryd yng Nghymru a sylweddolodd y byddai’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i fapio’r hyn sydd ei angen gan bob sector yng Nghymru er mwyn sicrhau economi adferol a sero-net yng Nghymru,” meddai Dr Chris Williams.

“Nid yw’r hyn yr ydym yn gweithio arno yn ymwneud â newid cyfansoddiad diwydiannol Cymru, mae’n ymwneud ag arloesi, bod ar y blaen o ran datgarboneiddio er mwyn sicrhau ein bod yn cadw’r diwydiannau a’r swyddi hyn yng Nghymru.

“Mae hefyd yn ymwneud ag archwilio cyfleoedd i greu diwydiannau newydd cyffrous yng Nghymru, yn ogystal ag adfywio a chynnal y rhai presennol.

“Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol hir a chyfoethog, sy’n arwain y ffordd yn y chwyldro gweithgynhyrchu a pheirianneg.

“Nawr rydym yn bwriadu bod yn arweinydd y chwyldro gwyrdd ac mae creu Diwydiant Sero Net Cymru yn sicr yn mynd i’n helpu i gyflawni hynny mewn ffordd fwy cydgysylltiedig a chydlynol.”