Nid oes rhaid gwisgo mygydau mewn siopau nag ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru erbyn hyn (Mawrth 28).

Bydd gwisgo mygydau yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn ysbytai a chartrefi gofal, ac mae’r cyngor iechyd cyhoeddus yn dal i argymell bod pobol yn gwisgo mygydau mewn siopau ac ar fysus a threnau.

Mae’r gofyniad cyfreithiol i hunanynysu’n dod i ben heddiw hefyd, ac yn newid i fod yn ganllaw.

Er hynny, bydd y taliad hunanynysu o £500 i gefnogi pobol yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.

Roedd disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru’n gallu cael gwared ar ei holl gyfreithiau Covid heddiw, ond fe wnaethon nhw benderfynu peidio â gwneud hynny yn sgil cynnydd mewn achosion Covid ledled Cymru.

Bydd hi dal yn ofynnol i gwmnïau gynnal asesiadau risg ar gyfer Covid, a gweithredu mesurau rhesymol i leihau’r risg i gwsmeriaid a staff.

‘Cynnydd annymunol’

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yr wythnos ddiwethaf ein bod ni’n gweld “cynnydd annymunol mewn achosion o’r coronafeirws ledled Cymru, sy’n adlewyrchu’r sefyllfa yn y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig”.

“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi mabwysiadu dull graddol a gofalus wrth inni lacio mesurau diogelu,” meddai.

“Rydym ar y trywydd iawn i adael ymateb i argyfwng y pandemig y tu ôl inni a dysgu byw gyda’r coronafeirws yn ddiogel.”

‘Parhau i fod yn ofalus’

Dywedodd un perchennog siop lyfrau wrth golwg360 ei bod hi’n awyddus i gymryd camau i drio atal lledaeniad y feirws yn y siop yn dal i fod.

“Dw i’n meddwl bod angen i ni barhau i fod yn ofalus a chymryd camau i drio atal y feirws rhag lledaenu,” meddai Elin Jones, perchennog Siop Lyfrau’r Hen Bost ym Mlaenau Ffestiniog.

“Fydda i’n sicr yn dal i wisgo masg wrth weithio yn y siop, ac wrth fynd i siopau eraill hefyd.

“Dw i’n poeni ychydig am gario’r feirws i fy rhieni, sydd mewn oed, ac mae hi dal werth gwisgo masg os ydy o’n golygu cadw pobol yn saff.

“Mae o’n rhywbeth reit hawdd i’w wneud, a dw i’n meddwl bod o’n ffordd o atgoffa pobol bod y pandemig dal i fod efo ni hefyd.

“Fyswn i ddim yn dweud fy mod i’n betrus am bobol yn dod i’r siop heb fasgiau, achos dw i ddim haws â phoeni.”

‘Ymddiried mewn busnesau’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwyno bod Llywodraeth Cymru’n bod yn “wrth-fusnesau” wrth ofyn i gwmnïau barhau i gynnal asesiadau risg.

Maen nhw wedi croesawu’r newidiadau i hunanynysu a gwisgo mygydau, ond mae angen ymddiried mewn busnesau i wneud yr hyn sy’n iawn i gadw cwsmeriaid a staff yn ddiogel, meddai llefarydd iechyd y blaid.

“Ar ôl dwy flynedd, mae pobol Cymru’n gwybod beth i wneud i gadw’u hunan yn ddiogel, a dylid ymddiried ynddyn nhw i wneud yr hyn maen nhw’n credu sy’n iawn tra bod Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar adfer yr economi, mynd i’r afael â chostau byw, a chau’r bwlch cyflog Cymreig,” meddai Russell George.

‘Negeseuon cymysg’

Yn y cyfamser, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o yrru negeseuon cymysg.

“Er ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i normalrwydd, bydd yna bryder gwirioneddol am y cyhoeddiad,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Mae hyn yn arbennig o wir gan ei bod hi’n ymddangos bod y Llywodraeth yn gyrru negeseuon cymysg, yn rhybuddio ni am ba mor sydyn mae’r don bresennol yn lledaenu ar un llaw, ac yn parhau i gael gwared ar y gofyniad i wisgo mygydau ar y llaw arall.

“Yr awgrym gan y cyhoedd yw y bydden nhw’n barod i barhau i wisgo mygydau mewn lleoliadau cyhoeddus tra bod achosion yn parhau i gynyddu ar raddfa mor sydyn.”

Cael gwared ar y gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus

Bydd y gofyniad cyfreithiol i hunanynysu yn dod i ben ddydd Llun (Mawrth 28) hefyd, ond bydd mygydau dal yn orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal