Mae Ynysoedd Solomon wedi llofnodi cytundeb plismona gyda Tsieina yr wythnos hon, ac mae disgwyl i’r llywodraeth gyflwyno cynlluniau ar gyfer camau diogelwch pellach yn ymwneud â’r lluoedd arfog.
Mae disgwyl y bydd y cynlluniau’n ymwneud â’r Unol Daleithiau, ar ôl i’r wlad honno ddweud fis diwethaf eu bod nhw am agor llysgenhadaeth ar yr ynysoedd yn sgil pryderon bod Tsieina am fagu perthnasau milwrol gydag Ynysoedd y Môr Tawel.
Fe wnaeth Ynysoedd Solomon ddangos teyrngarwch i Beijing yn 2019, a hynny ar draul Taiwan, gan arwain at derfysgoedd yn y brifddinas Honiara mor ddiweddar â mis Tachwedd y llynedd.
Mae gan Awstralia hanes o gefnogi diogelwch yr ynysoedd, ac fe wnaethon nhw arwain taith blismona er mwyn adfer heddwch yn dilyn y terfysgoedd, a hynny ar gais y prif weinidog Manasseh Sogavare.
Mae Karen Galokale, ysgrifennydd parhaol gyda’r Weinyddiaeth Blismona, wedi cadarnhau’r cytundeb gan ddweud bod rhagor o drafodaethau ar y gweill.
Mae Anthony Veke, Gweinidog Plismona Ynysoedd Solomon, wedi cadarnhau ei fod e wedi llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth gyda Gweinyddiaeth Diogelwch Cyhoeddus Tsieina, mewn cyfarfod rhithiol ar Fawrth 18.
Gyda rhan o’r cytundeb yn rhoi sylw i gludo nwyddau o Tsieina i Ynysoedd Solomon, mae Awstralia’n gofidio y gallai arwain at Tsieina’n sefydlu safle milwrol parhaol yno – ond mae llywodraeth Ynysoedd Solomon yn mynnu nad yw’r cytundeb yn wahanol i’r cytundebau sydd yn eu lle gydag Awstralia, Seland Newydd, Ffiji a Papwa Guinea Newydd.