Mae Dick Cole, arweinydd plaid Mebyon Kernow, wedi ymateb i sylwadau Gordon Ramsay am drigolion Cernyw.
Wrth siarad â Vernon Kay ar Radio 2 ddydd Mercher (Mawrth 23), dywedodd y cogydd drwg-enwog ei fod e’n “caru Cernyw” ond mai’r “bobol dw i ddim yn gallu eu goddef”.
Mae gan yr Albanwr sawl eiddo yng Nghernyw, ac fe ddaeth e o dan y lach am deithio i’w eiddo gwerth £4m ar ddechrau cyfyngiadau’r cyfnod clo cyntaf.
Wrth gyfeirio mewn edefyn Twitter at sylwadau Gordon Ramsay, dywedodd y Cynghorydd Dick Cole ei fod e wedi siarad â newyddiadurwr o’r Sun.
“Dw i’n siomedig iawn o glywed sylwadau dirmygus Gordon Ramsay a’i ddiffyg parch at bobol Cernyw,” meddai.
“Mae’n syfrdanol ei fod e’n ei chael hi’n iawn gwneud y fath ddatganiad cyhoeddus na fyddai, fwy na thebyg, yn ei wneud am grwpiau cenedlaethol neu ethnig eraill.
“Mae angen tynnu sylw at y ffaith fod y Cernywiaid wedi’u gwarchod fel ‘lleiafrif cenedlaethol’ – yn union fel y Cymry neu’r Albanwyr – drwy’r Confensiwn Fframwaith ar gyfer Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol.
“Dw i’n mawr obeithio y bydd e’n ystyried ei eiriau ac yn ymddiheuro.
“Dydy nifer o bobol sy’n byw i’r gorllewin o [afon] Tamar ddim yn mwynhau bywyd cystal â Mr Ramsay.”
Wrth gloi ei sylwadau, fe wnaeth Dick Cole wahodd The Sun i ysgrifennu erthyglau am dlodi, argyfwng tai a phroblemau eraill y bobol gyffredin yng Nghernyw “a’r angen am fwy o gefnogaeth i ddiwylliant Cernyw”.