Mae dwy fam o Lanbrynmair ger Machynlleth yn ceisio codi arian er mwyn teithio i Wlad Pwyl er mwyn helpu i roi cymorth dyngarol i ffoaduriaid.

Bydd Sara Wheeler a Vicky Rowe yn mynd i wirfoddoli yn Przemysl, sydd ar y ffin ag Wcráin ac yn croesawu nifer o ffoaduriaid o Wcráin, ddiwedd yr wythnos hon.

Er mwyn codi arian ar gyfer costau teithio a llety’r ddwy ffrind, cafodd pryd bwyd Syriaidd ei drefnu mewn becws ym Machynlleth dros y penwythnos.

Daeth Seba Dabadoo a Rahma Osman i Gymru o Syria, a buodd y ddwy yn paratoi pryd Syriaidd traddodiadol ym mecws Popty Clai, gan godi dros £800 tuag at gostau Sara Wheeler a Vicky Rowe.

Mae miloedd o ffoaduriaid o Wcráin yn cyrraedd y ffin â Gwlad Pwyl bob diwrnod, ac mae asiantaethau cymorth wedi gofyn am help gan wirfoddolwyr.

‘Gwneud be allwn ni’

“Mae gweld y fideos a’r lluniau o’r dinistr wedi torri fy nghalon,” meddai Sara Wheeler.

“Rydyn ni wedi’n cyffroi o gael y cyfle hwn i helpu, ond rydyn ni’n pryderu hefyd – nid am y perygl corfforol ond am weld trawma’r dinistr a chyfarfod pobol a theuluoedd sydd wedi cael eu rhwygo.”

“Rydyn ni’n ddwy fam brysur sydd wedi gwylio gormod o’r newyddion, ac rydyn ni eisiau gwneud beth bynnag allwn ni i helpu,” meddai’r ddwy.

“Felly rydyn ni wedi penderfynu camu o’n bywydau am wythnos a mynd i Ganolfan Gymorth Dyngarol Przemysl.

“Mae hi ar y ffin ag Wcráin, ac mae hi’n croesawu nifer o bobol sydd wedi’u dadleoli i Wlad Pwyl; byddan ni’n gweithio yn y warws, yn trefnu a dosbarthu cymorth.”

Mae’r ddwy wedi sefydlu tudalen i godi arian, a bydd yr holl arian yn mynd tuag at gefnogi taith y ddwy, tuag at asiantaethau cymorth yn Wcráin, a thuag at deuluoedd fydd yn cyrraedd y canolbarth.

Y nod oedd codi £750, ond maen nhw eisoes wedi curo’r targed a chodi £1,120.