Mae pedwar o uwch-ymgynghorwyr Boris Johnson wedi ymddiswyddo o Downing Street o fewn oriau i’w gilydd yn sgil pwysau cynyddol ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Gadawodd y prif swyddog polisi Munira Mirza dros yr hyn a ddywedodd oedd yn ymosodiad “enllibus” gan Boris Johnson ar Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, ddechrau’r wythnos hon.
Mae’r prif weinidog nawr yn gorfod ystyried ail-lunio ei gylch mewnol ar ôl i’r pedwar cynghorydd allweddol ymddiswyddo, wrth iddo yntau frwydro i aros yn Rhif 10.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu Jack Doyle ei fod yn gadael neithiwr (nos Iau, Chwefror 3), yn fuan iawn ar ôl ymadawiad Munir Mirza.
Dywedodd wrth staff fod “yr wythnosau diwethaf wedi cael effaith ofnadwy” ar ei fywyd teuluol, ond ei fod wedi bwriadu gadael ar ôl dwy flynedd beth bynnag.
Yn ôl datganiad gan lefarydd ar ran Rhif 10, roedd y pennaeth staff Dan Rosenfield wedi cynnig ei ymddiswyddiad i’r prif weinidog yn gynharach ddoe, ond y byddai’n aros tra bod y gwaith o chwilio am ei olynydd ar y gweill.
A bydd Martin Reynolds, prif ysgrifennydd preifat y prif weinidog, yn gwneud yr un fath, ond gan ddychwelyd i rôl yn y Swyddfa Dramor.
Mae nifer o aelodau seneddol sy’n gefnogol i’r prif weinidog wedi bod yn trydar canmoliaeth, gan awgrymu bod Boris Johnson yn gyfrifol am wneud newidiadau angenrheidiol i’w staff yn dilyn adroddiad damniol gan yr uwch was sifil Sue Gray i bartïon anghyfreithlon yn Rhif 10 yn ystod y pandemig.
Ad-drefnu Rhif 10
Dywedodd y Gweinidog Ynni Greg Hands wrth BBC Breakfast fod yr ymddiswyddiadau wedi digwydd wedi i Boris Johnson “ei gwneud hi’n glir y byddai yna ad-drefnu” yn Downing Street.
Wrth siarad â rhaglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd y meinciwr cefn Ceidwadol Huw Merriman fod llawer o aelodau seneddol yn deyrngar i’r prif weinidog, a’u bod nhw’n canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol.
Ond dywedodd ei fod wedi ei “drwblu’n fawr” gan y sefyllfa, a chytunodd y dylai’r prif weinidog “siapio neu adael”.
Rhoddodd Munir Mirza y gorau i’w swydd yn dilyn honiad ymosodol gan y Prif Weinidog fod Syr Keir Starmer wedi methu ag erlyn Jimmy Savile pan oedd yn gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus, ac fe wrthododd ymddiheuro.
Roedd y Canghellor Rishi Sunak wedi ymbellhau’n gyhoeddus o sylw gwreiddiol Boris Johnson, gan ddweud, “A bod yn onest, ni fyddwn wedi dweud hynny.”
“Gydag uwch gynghorwyr a chynorthwywyr [Mr Johnson] yn rhoi’r gorau iddi, efallai ei bod yn bryd iddo edrych yn y drych ac ystyried a allai fod yn broblem,” meddai Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur.