Mae tad wedi lambastio cyngor Sir Ddinbych drwy honni bod disgyblion mewn ysgol gynradd Gymraeg yn mwynhau gwell cyfleusterau na phlant mewn ysgol cyfrwng Saesneg ar yr un safle.
Mae Ysgol Stryd y Rhos a Ysgol Gynradd Gymraeg Pen Barras yn Rhuthun wedi eu hadeiladu ar yr un safle ar Ffordd Glasdir, ond mae’r plant yn cael eu cadw ar wahân yn ystod amser egwyl.
Gan gostio tua £11.2m, agorodd y ddwy ysgol bedair blynedd yn ôl.
Mae gan Chris Calvert fab chwech oed a merch dair oed sy’n mynychu Ysgol Stryd y Rhos, ond mae’n dweud bod yr ysgol Gymraeg mewn sefyllfa well.
Tra bod gan blant yn Ysgol Pen Barras faes chwarae a ffrâm ddringo newydd, mae Chris Calvert yn honni bod Ysgol Stryd y Rhos wedi’i hadeiladu ar orlifdir.
Mae safle Stryd y Rhos bellach wedi’i wella gyda llithren a maes chwarae, ond dywedodd y tad 45 oed fod hynny mewn perygl oherwydd y llifogydd cyson.
“Methu credu’r gwahaniaeth”
“O’r funud yr agorodd yr ysgol, o’r tro cyntaf i mi fynd yno i nôl fy mhlant, doeddwn i ddim yn gallu credu’r gwahaniaeth rhwng y ddau safle, yn enwedig y mannau chwarae y tu allan,” meddai.
“Mae gan un ysgol ardal chwarae enfawr o’r radd flaenaf sy’n llawn offer newydd sbon, tra bod Ysgol Stryd y Rhos wedi’i hadeiladu ar orlifdir.
“Dylai’r ardal chwarae newydd fod â gostyngiad naturiol o 20ml y metr sgwâr i fodloni safonau Prydeinig.
“Dwi ddim yn meddwl bod cwymp o hyd yn oed 8ml yno i ddŵr ddraenio. Nid oes digon o lethr i ganiatáu i ddŵr ddraenio.
“Mae gan Ysgol Pen Barras bob math o adeiladau allanol, mannau chwarae, fframiau dringo – rwy’n credu bod hynny wedi’i ariannu gan y PTA (Cymdeithas Rhieni ac Athrawon).
“Rydyn ni newydd adeiladu ardal chwarae, ond dyna’r cyfan sydd gennym ni.
“Mae pawb rwy’n siarad â nhw, gan gynnwys y rhieni eraill, mewn sioc o’r gwahaniaeth rhwng y ddau safle. Maen nhw’n gwahanu’r plant, gyda’r ysgolion wedi’u gwahanu gan ffensys dur.
“Mae plant Stryd y Rhos yn cael cam aruthrol yma.”
Dywed Chris Calvert ei fod wedi cwyno sawl gwaith i Gyngor Sir Ddinbych heb i’r mater gael ei ddatrys.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: “Yn dilyn sylwadau, gosododd y cyngor ardal chwarae ychwanegol ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos dros yr haf 2021.
“Mae rhan o’r iard wedi gweld pyllau dŵr yn datblygu sy’n araf i’w gwasgaru, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda chontractwyr i geisio ymateb i’r mater er mwyn sicrhau bod yr iard yn gallu cael ei ddefnyddio’n llawn gan ddisgyblion yr ysgol.”