Mae Anna McMorrin, Aelod Seneddol Llafur dros Ogledd Caerdydd, wedi datgelu iddi ‘fyw mewn cyflwr o bryder a straen parhaol a thrawma’ yn dilyn perthynas lle cafodd hi ei cham-drin yn emosiynol.

Mae llefarydd dioddefwyr a chyfiawnder ieuenctid yr wrthblaid bellach yn arwain ymgyrch i sicrhau bod y gyfraith yn cydnabod “cam-drin emosiynol cymhellol” fel “peth go iawn y mae menywod yn ei wynebu”.

Mewn cyfweliad â GB News, bu’n rhannu ei phrofiadau yn dilyn y berthynas a gafodd effaith emosiynol a seicolegol arni.

“[Profais] iaith danseiliol, [roedd y person] yn rheoli nifer o sefyllfaoedd, yn fy mychanu pan oedd gennyf farn benodol, gan ddweud wrthyf fy mod yn mynd yn wallgof pan geisiais ddadlau barn wahanol, tynnu’n ôl oddi wrthyf, a’r ‘driniaeth dawel’, hefyd, fel cosb,” meddai.

“Felly, mae’r rhain i gyd yn bethau eithaf bach, ond, yn ogystal, ddydd ar ôl dydd, rydych chi’n dechrau byw mewn cyflwr o bryder a straen a thrawma parhaol, heb wybod beth sy’n real a beth sydd ddim.”

“Pan fyddwch chi mewn perthynas sy’n fwy fel hyn, sy’n hynod wenwynig, rydych chi’n ddechrau cwestiynu beth sy’n wir a beth sy’n gelwydd.

“Rydych chi’n cwestiynu eich hun yn gyson oherwydd eu bod yn eich holi’n gyson ac yn eich beirniadu, gan ddweud wrthyf fy mod yn mynd yn wallgof, gan ddweud wrthyf fod angen triniaeth iechyd meddwl arnaf oherwydd i mi golli fy nhymer oherwydd ei fod wedi fy ngwylltio cymaint.

“Dyna’r norm, y straen a’r pryder hwnnw.”

 

Fe atododd yr aelod seneddol glip o’r cyfweliad ar ei chyfrif Twitter gan ddweud, “Does neb yn haeddu teimlo fel cysgod o’u hen hunan”.

“Gall hyn ddigwydd i unrhyw un,” meddai.

“Yn anochel, mae rhwystrau i adael perthynas, ond rwy’n gobeithio y bydd siarad am fy mhrofiadau yn rhoi’r dewrder i eraill gymryd y cam cyntaf hefyd.”

Defnyddiodd hi’r ymadrodd “bondio trawma” mewn perthynas â’i phrofiad, gan esbonio ei bod hi “bron yn normal i fyw gyda’r trawma hwnnw. Felly rydych chi’n gwneud pethau’n gyson i beidio â chynhyrfu’r person”.

Cynigodd hi gyngor i ddioddefwyr sy’n byw mewn perthynas gymhellol emosiynol, gan ddweud ei bod hi “am i unrhyw fenyw allan yno wybod y gallwch adael”.

“Mae llawer o bobl yn y math yma o berthnasoedd, does dim angen popeth yn ei le i fynd.”

Newid y gyfraith

Mae hi bellach yn ymgyrchu dros ddiwygio’r system gyfreithiol wrth drin dioddefwyr sydd wedi cael eu cam-drin yn emosiynol.

“Bob wythnos, y rhan fwyaf o ddyddiau, rwy’n siarad â dioddefwyr; menywod sydd mewn, neu sydd wedi bod mewn perthynas gamdriniol ofnadwy, amgylchiadau unigryw,” meddai.

“Ac maen nhw’n cael eu trin yn ofnadwy gan y llysoedd, gan y system gyfiawnder.

“Dyna pam rwyf am siarad am berthynas yn y gorffennol yr wyf wedi’i chael, gan fy mod yn teimlo bod angen siarad amdano.”

Mae’r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 72.6% o fenywod sydd ymhlith dioddefwyr cam-drin domestig wedi dweud eu bod nhw wedi profi cam-drin nad yw’n gorfforol, fel cam-drin emosiynol neu ariannol.

57% yw’r ffigwr ymhlith dynion.