Mae disgwyl i filiau dŵr godi ym mis Ebrill gan ychwanegu at gostau byw cynyddol aelwydydd.
Fe gyhoeddwyd y bydd biliau dŵr ar gyfartaledd yn codi 1.7% yn y flwyddyn ariannol nesaf, sy’n llawer is na graddfa chwyddiant, yn ôl corff y diwydiant Water UK.
Fe fydd yn ychwanegu £7 y flwyddyn i filiau dŵr sy’n gynnydd bach o’i gymharu â’r cynnydd o £693 mewn biliau ynni y mae disgwyl i nifer o aelwydydd ei wynebu o fis Ebrill.
Mae’r cynnydd yn golygu y bydd biliau dŵr ar gyfartaledd yn codi i £419 y flwyddyn, gyda chymorth ar gael i filoedd o gwsmeriaid. Ar hyn o bryd mae 1.1 miliwn o gwsmeriaid yn cael rhyw fath o gymorth i dalu eu biliau dwr, yn ôl Water UK.
“Bydd cwsmeriaid yn parhau i dalu ychydig mwy na £1 y dydd am eu gwasanaeth dŵr a charthffosiaeth, gan helpu i ariannu buddsoddiad sylweddol yn uniongyrchol i wella seilwaith a’r amgylchedd,” meddai Prif Weithredwr Water UK, Christine McGourty.
“Ond rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i lawer, ac ni ddylai neb orfod poeni am hanfodion eu cartref.
“Mae ystod eang o gefnogaeth ar gael i’r rhai mewn angen, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n bryderus i gysylltu â’u cwmni dŵr.”
Ddydd Iau, cyhoeddodd Ofgem gynnydd o 54% yn y cap ar filiau ynni, a fydd yn effeithio 22 miliwn o gartrefi.
Yn y cyfamser, mae Banc Lloegr wedi rhybuddio y bydd chwyddiant yn codi i 7.25% ym mis Ebrill, a allai leihau incwm gwario o 2%.