Mae dyn sy’n cyd-gyflwyno’r Podlediad Miwsig Cymreig wedi dweud wrth golwg360 fod cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn help mawr wrth iddo ddysgu’r iaith.

Mae hi’n dair blynedd ers i James Cuff ddechrau dysgu Cymraeg, ac mae’n dweud mai anfon ei ferch i ysgol Gymraeg oedd wedi’i ysgogi, ond bod cerddoriaeth Gymraeg wedi hwyluso’r broses.

“Mi wnaethon ni roi fy merch mewn ysgol Gymraeg ac ro’n i eisiau ei helpu rili,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n caru siarad Cymraeg efo fy merch, dw i’n teimlo mod i wedi rhoi anrheg iddi, ond dw i wedi cael anrheg hefyd.

“Ar yr un pryd mae tast miwsig fi’n styc yn y noughties felly ro’n i’n meddwl bod yn rhaid i mi wrando mwy ar gerddoriaeth Gymraeg.

“Felly wnes i ddechrau Podlediad Miwsig Cymreig gyda fy ffrind Neil [Collins] i helpu fi i ddeall hanes cerddoriaeth Gymreig.

“Mae o wedi rhoi cyfle i mi siarad a chwrdd â llawer o bobl o’r sîn Gymraeg, dysgu am gerddoriaeth Gymraeg a jyst cadw tast miwsig Cymraeg fi up to date.”

James (dde) a Neil (chwith) sy’n cyflwyno’r Podlediad Miwsig Cymreig

‘Dysgu geiriau go iawn’

Sut mae cerddoriaeth Gymraeg wedi helpu James wrth iddo ddysgu Cymraeg felly?

“Jyst darllen y geiriau rili, wrth wrando a darllen ti’n dysgu geiriau newydd,” eglura.

“Dw i’n meddwl pan dw i’n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg bob dydd dw i’n dysgu geiriau newydd a hefyd mwy o eiriau go iawn, nid pethau sydd yn llyfr y dysgwyr – fel slang.

“Mae yna lawer o fandiau anhygoel yng Nghymru ar y funud fel Adwaith, Alffa, Colorama, 3 Hwr Doeth a hyd yn oed artistiaid fel Gruff Rhys.

“Fe wnaethon ni recordio podlediad ar 20th anniversary Mwng ac ers dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg mae gyda fi fwy o gariad at Mwng achos dw i’n deall mwy o’r geiriau.”

Pennod arbennig o’r podlediad

Bydd James a Neil yn rhyddhau pennod arbennig o’r Podlediad Miwsig Cymreig i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, gyda Pat Morgan o’r band Datblygu yn trafod ei phlentyndod, ymuno â Datblygu ac etifeddiaeth y band.

Bydd hi hefyd yn dewis ei hoff albym Gymraeg.

“Fe wnaethon ni recordio’r bennod wythnos diwethaf,” meddai James.

“Mae hi’n bennodd ddiddorol ac roedd hi’n neis cael cyfle i siarad gyda Pat am gerddoriaeth Gymraeg pan oedden nhw’n dechrau Datblygu, geiriau Dave a bandiau pwysig fel Datblygu, Anrhefn, Y Cyrff wnaeth agor y drysau i fandiau fel Adwaith heddiw.”