Mae mam wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio ei mab 5 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae Angharad Williamson, 30, wedi’i chyhuddo o ladd Logan Mwangi, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, yn eu cartref yn Sarn, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 31 Gorffennaf y llynedd ar ôl i Angharad Williamson adrodd ei fod ar goll am 5.45yb y diwrnod hwnnw.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru lle cafodd ei farwolaeth ei gadarnhau.

Roedd Logan wedi dioddef nifer o anafiadau cyn iddo farw, yn ôl tystiolaeth feddygol honedig.

Honnir ei fod wedi ei ladd rhwng 28 Gorffennaf ac 1 Awst.

Yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Gwener, 4 Chwefror) roedd Angharad Williamson hefyd wedi gwadu cyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Mae hi eisoes wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, sy’n ymwneud a honiadau ei bod wedi symud corff Logan i ardal wrth ymyl yr afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely oedd a gwaed arnyn nhw, a gwneud adroddiad ffug i’r heddlu am blentyn ar goll.

Roedd John Cole, 39, o Sarn, hefyd wedi ymddangos yn y llys ac wedi gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn. Mae e eisoes wedi pledio’n ddi-euog i gyhuddiad o lofruddiaeth, ond yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae bachgen 14 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, eisoes wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Roedd wedi ymddangos yn y llys drwy gyswllt fideo.

Mae disgwyl i’r achos ddechrau ar 14 Chwefror a pharhau am chwe wythnos.