Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd holl rasio milgwn yng Nghymru.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, AS sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, mai yn ei ranbarth mae’r unig drac rasio milgwn sydd ar ôl yng Nghymru. Mae elusennau sy’n gweithio i achub milgwn yn dweud eu bod wedi achub cannoedd o’r cŵn o’r trac hwn yn Ystrad Mynach yn Sir Caerffili yn unig.

Mae dros 25,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yr elusen Hope Rescue, yn gwrthwynebu cynlluniau i’r trac ymuno â Bwrdd Milgwn Prydain, a fyddai’n arwain at gynnal rasys bedair gwaith yr wythnos.

Yn ystod cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, dywedodd Peredur Owen Griffiths ei bod yn bryd i Gymru ymuno â’r rhan fwyaf o wledydd eraill y byd drwy wahardd rasio milgwn.

‘Achub 200 o filgwn’

“Yn fy rhanbarth i, mae’r trac rasio milgwn olaf sy’n weddill yng Nghymru,” meddai Peredur Owen Griffiths wrth y Senedd.

“Mae’r trac hwn hefyd yn annibynnol, sy’n golygu nad yw’n gorfod cydymffurfio ag unrhyw ofynion rheoleiddio neu drwyddedu.

“Nid oes gofyniad am bresenoldeb milfeddygol na goruchwyliaeth lles yn ei le, fel y mae. Dywed Hope Rescue eu bod, yn ystod y pedair blynedd diwethaf, wedi cymryd 200 o filgwn o’r trac hwn – 40 o’r rhain gydag anafiadau.

“Maen nhw’n ofni y bydd hyn yn cynyddu pan fydd y trac yn troi’n drwyddedig yn ddiweddarach eleni.”

‘Dilyn esiampl’ gwledydd eraill y byd

Ychwanegodd Peredur Owen Griffiths: “Dim ond wyth gwlad sydd ar ôl yn y byd lle mae rasio milgwn yn dal i gael ei ganiatáu. Weinidog, onid yw’n bryd inni ddilyn eu hesiampl a gwahardd y gweithgaredd hwn ar sail lles anifeiliaid?”

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Leslie Griffiths ei fod yn rhywbeth yr oedd hi’n “edrych yn fanwl iawn arno” ond y byddai’n “rhaid edrych ar dystiolaeth, ymgynghoriad… a bydd y cyfan yn cymryd ychydig o amser, ac, yn amlwg, byddai’n rhaid i gapasiti deddfwriaethol fod ar gael i mi wneud hynny.”