Mae darlithydd wedi ei garcharu am bum mlynedd am ladd nain ac anafu ei gŵr mewn gwrthdrawiad garw yn y de.

Cafwyd Iestyn Jones, 54, o Dredegar, yn euog o achosi marwolaeth wrth yrru yn beryglus yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Rhagfyr.

Bu farw Shirley Culleton, 65, yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A4046 ger Glyn Ebwy, ar 6 Gorffennaf, 2019.

Roedd Shirley Culleton a’i gŵr Michael wedi bod yn gyrru ar hyd ffordd osgoi yn eu cerbyd Suzuki Swift coch ar brynhawn Sadwrn ar ôl bod ar drip shopa, pan yrrodd Iestyn Jones ei gar Hyundai IX35 i’w lôn nhw ac achosi i’r ddau gar fynd benben â’i gilydd.

Fe gafodd Iestyn Jones ei gyhuddo o “ffidlan gyda’i radio” ar y pryd, gan achosi iddo wyro fewn i’r traffig oedd yn dod i’w wyneb.

Yn ystod yr achos llys, fe ddaeth i’r amlwg bod y darlithydd sy’n cadw defaid wedi taro yn erbyn car Ford Fiesta yn gyntaf, gan achosi mân anafiadau i yrrwr y cerbyd hwnnw, cyn taro fewn i gar Shirley Culleton.

Yn dilyn y ddamwain, fe ddywedodd Iestyn Jones iddo fod yn “ffidlan” gyda’r radio pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Ond yn y llys roedd ei gyfreithiwr yn dadlau bod Iestyn Jones wedi dioddef pwl drwg o ‘obstructive sleep apnoea’ ar ddiwrnod y ddamwain.

Ond fe’i cafwyd yn euog a’i ddedfrydu i bum mlynedd a hanner o garchar, a’i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a naw mis.

Dywedodd y Barnwr Richard Williams bod hyd y ddedfryd yn seiliedig ar y ffaith bod Iestyn Jones heb edrych i le’r oedd o’n mynd am rhwng pump ac wyth eiliad.