Ni fydd athrawon yng Ngwynedd yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau banc na thâl ychwanegol i nodi Dydd Gŵyl Dewi.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith y bydd cynorthwywyr dosbarth yn mwynhau taliad bonws ar Ddydd Gŵyl Dewi, tra bod swyddfeydd y cyngor yn cau a’r gweithwyr yn cael gŵyl banc.
Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cyhoeddi y bydd ysgolion yn parhau ar agor ac y bydd gwasanaethau o ddydd i ddydd yn y sir, fel biniau ac ailgylchu, yn parhau.
Bydd swyddfeydd y cyngor yn cau, gyda staff swyddfa yn mwynhau diwrnod o’r gwaith tra bydd staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau hanfodol yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau ryw bryd arall.
Esboniodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu y dylai ei weithwyr gael diwrnod ychwanegol o wyliau eleni i ddathlu Dewi Sant, nawddsant Cymru.
“Mae hefyd yn rhan o ymgyrch ehangach gan aelodau’r Cyngor i geisio sicrhau bod y 1af o Fawrth yn ŵyl banc i bobl Cymru maes o law.
“Bydd gweithwyr y Cyngor, sy’n gweithio ar delerau ac amodau llywodraeth leol, yn cael diwrnod o wyliau ar y 1af o Fawrth 2022, lle bydd swyddfeydd Cyngor Gwynedd ar gau am y diwrnod.
“Bydd unrhyw staff a fydd yn gweithio ar 1 Mawrth (staff gofal, timau gwastraff ac ailgylchu ac ati) yn cael y diwrnod ychwanegol o wyliau i’w gymryd ar ddyddiad arall.
“Nid oes gan y Cyngor yr awdurdod i neilltuo diwrnod ychwanegol o wyliau i athrawon yr awdurdod – mae telerau ac amodau athrawon yn cael eu trafod a’u ffurfio ar lefel genedlaethol ac felly nid oes gan y Cyngor yr awdurdod i roi’r diwrnod ychwanegol i’r aelodau staff hynny.
“Trafodir telerau ac amodau cynorthwywyr dosbarth yn lleol yma yng Ngwynedd, ac felly mae gan yr aelodau staff hynny ac aelodau staff eraill sy’n gweithio yn ein hysgolion, yr hawl i wyliau ychwanegol.
“Fodd bynnag, gan fod cynorthwywyr dosbarth a staff sy’n cefnogi ysgolion yn gweithio i dymor ysgol, nid yw’n bosibl iddynt gymryd y 1af o Fawrth fel diwrnod i ffwrdd neu gymryd y diwrnod ar ddyddiad arall.
“Felly, bydd yr aelodau staff hynny’n cael addasiad yn eu cyflog am eleni.”
Undeb yn “gresynu”
Wrth ymateb, dywedodd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC):
“Mae’n bolisi gan UCAC y dylai Gŵyl Ddewi fod yn Ŵyl y Banc.
“Rydym yn gresynu nad oes hawl gan Senedd Cymru i benderfynu ar ein gwyliau banc cenedlaethol. Sefyllfa sydd, wrth gwrs, yn wahanol i bob cenedl arall yn y Deyrnas Unedig.
“Mae amodau gwaith athrawon ysgol yn nodi bod disgwyl i athrawon fod wrth eu gwaith am leiafrif o 195 diwrnod. Mae angen i Lywodraeth Cymru felly, ystyried lleihau’r nifer o ddyddiau gwaith a gweithredu lle bo’n addas.
“Rydym yn derbyn nad yw Cyngor Gwynedd â’r hawl i newid amodau gwaith athrawon ysgol, ond rydym yn glir o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ein dyddiau gwŷl cenedlaethol wrth benderfynu ar batrwm blwyddyn ysgol.”