Bydd yn rhaid i berchnogion ail gartrefi a thai haf ym Mhowys dalu premiwm o 75% ar dreth y cyngor o fis Ebrill 2023.
Daw hyn ar ôl i gynghorwyr bleidleisio’n unfrydol mewn cyfarfod heddiw (dydd Gwener, Chwefror 4) i gynyddu’r dreth, ac fe allai arwain at £350,000 ychwanegol yng nghoffrau’r Cyngor Sir.
Cafodd y cynnydd ei gytuno mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor ym mis Medi 2020, ac roedd yn destun ymgynghoriad yn niwedd y flwyddyn honno, gyda chwestiynau’n cael eu gofyn ynghylch pam nad oedd cynnydd wedi’i gyflwyno cyn hynny.
Eglurodd y Cynghorydd Aled Davies, deilydd y portffolio Cyllid, fod ymgynghoriad ar y cynnig wedi’i gynnal yn niwedd 2020, gyda 780 o ymatebion yn dod yn ôl.
“Roedd y farn ar y cyfan yn yr ymgynghoriad yn un negyddol o safbwynt codi’r premiwm,” meddai.
“Dydy hi ddim wir yn syndod nad oes neb eisiau gweld lefelau trethi uwch.
“Fodd bynnag, perchnogion ail gartrefi oedd y rhan fwyaf o bobol wnaeth ymateb.”
‘Mae yna risgiau’
Roedd y Cynghorydd Aled Davies yn credu bod nifer o gwestiynau i’w hateb cyn bod cynghorwyr yn pleidleisio.
Gofynnodd a fyddai’n cynyddu nifer y tai fforddiadwy neu’n gwella cynaladwyedd cymunedau lleol yn ogystal â rhoi hwb i economi Powys.
“Mae yna risgiau,” meddai.
“Pe bai 10% yn newid i gyfraddau busnes a 10% yn eu gwneud nhw’n brif breswylfa, yna bydden ni’n gost-niwtral.
“Pe bai’n uwch, bydden ni’n colli refeniw, mae’n benderfyniad anodd i’w wneud.”
Y Cynghorydd Elwyn Vaughan gyflwynodd y cynnig a gafodd ei dderbyn gan y Cyngor.
“Dydi hi ddim yn gyfrinach fy mod i’n angerddol am y mater hwn,” meddai.
“Dydi hi ddim yn broblem newydd i Gymru wledig na rhannau o Loegr wledig.
“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf ydi fod prisiau eiddo wedi mynd yn hurt mewn nifer o gymunedau.”
Dywedodd ei bod hi’n broblem ledled Powys, a bod prisiau eiddo wedi cynyddu “tu hwnt i afael pobol ifanc”.
“Fydd hyn ddim yn datrys pob drwg sy’n wynebu’r sector tai a’n cymunedau, ond mi fydd hi’n anfon neges glir ein bod ni’n deall yr heriau a’n bod ni eisiau cefnogi ein pobol ifanc,” meddai.
‘Tai heb oleuadau, heb fywyd’
“Wn i ddim a yw nifer ohonoch chi wedi cael y profiad o yrru drwy bentrefi yng ngorllewin Cymru am 5yh ar noson aeafol,” meddai Myfanwy Alexander, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol oedolion, y Gymraeg a chyfathrebu.
“Fe allech chi ddisgwyl gweld golau lamp a thân yn dod drwy lenni wedi’u cau, ac rydych chi’n gweld cyfres o’r hyn sy’n edrych i mi fel llygaid wedi’u dallu.
“Rydych chi’n gweld tai heb oleuadau, heb fywyd.
“Mae angen i ni sicrhau nad ydi hynny’n digwydd ym Mhowys.”
‘Cychwyn ar ddatrysiad’
“Yn drist iawn, rydyn ni’n wynebu’r realiti na fydd pobol ifanc yn ein cymunedau’n gallu fforddio’u cartrefi eu hunain,” meddai’r Cynghorydd Beverly Baynham, sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau llywodraethiant a rheoleiddio.
“Fydd fy naill blentyn na’r llall ddim yn gallu byw mewn cymuned lle dw i, eu nain a’u taid wedi byw ers nifer o flynyddoedd.
“Dydi o ddim yn wellhad gwyrthiol, ond dw i’n credu ei fod o’n gychwyn ar ddatrysiad.
Dywed yr adroddiad y bydd codi’r premiwm 75% yn cynyddu treth y cyngor ar gyfartaledd i 1,311 o eiddo sydd wedi’u nodi, a hynny i £3,310.45.