Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi dweud wrth Dŷ’r Cyffredin bod y cynnydd sydd wedi’i wneud ar frechlyn yn “newyddion da iawn” ond “nid dyma ddiwedd ein brwydr” yn erbyn y coronafeirws.
Ond roedd Boris Johnson yn awyddus i bwysleisio ei bod hi’n “bwysig iawn nad yw pobl yn codi eu gobeithion yn rhy fuan” am y brechlyn.
Dywedodd Mr Johnson: “Rwy’n credu ar hyn o bryd ei bod yn bwysig iawn, iawn nad yw pobl yn codi eu gobeithion yn rhy fuan am ba mor gyflym y byddwn yn gallu cyflwyno’r brechlyn hwn.
“Bydd yn dechrau, fel y dywedodd fy nghyfaill anrhydeddus, yr Ysgrifennydd Iechyd, o’r wythnos nesaf ac rydym yn disgwyl sawl miliwn dos o’r brechlyn Pfizer/BioNTech cyn diwedd y flwyddyn.
“Byddwn wedyn yn ei gyflwyno mor gyflym ag y gallwn.”
Cartrefi Gofal
Wrth holi Mr Johnson, gofynnodd Keir Starmer pa mor ymarferol oedd cael y brechlyn i gartrefi gofal.
Dywedodd: “Pa gynlluniau y mae wedi’u rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r problemau penodol o gael y brechlyn yn ddiogel ac yn gyflym i gartrefi gofal, o ystyried yr anawsterau ymarferol o wneud hynny a’r pryder y bydd gan y rhai mewn cartrefi gofal am ei gael yn gyflym?”
Atebodd Boris Johnson: “Mae angen ei gadw ar finws 70C, fel y mae’r Tŷ’n ei ddeall, rwy’n credu, felly mae heriau logistaidd i’w goresgyn er mwyn sicrhau bod pobol sy’n fregus yn cael mynediad i’r brechlyn sydd ei angen arnynt.
“Rydym yn gweithio ar hyn gyda’r pedair gweinyddiaeth ddatganoledig er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ledled y wlad yn gallu ei ddosbarthu mor gyflym ac mor synhwyrol â phosibl i’r grwpiau mwyaf bregus.”
Y Llywodraeth yn addo gwneud “popeth o fewn ein gallu i adfer strydoedd mawr”
Yna, symudodd arweinydd Llafur at gwymp Grŵp Arcadia a Debenhams yn y dyddiau diwethaf, gan ddweud wrth Dŷ’r Cyffredin: “Mae hynny wedi peryglu 25,000 o swyddi ac wedi achosi pryder enfawr i lawer o deuluoedd ar yr adeg waethaf posibl ac mae’n bygwth rhwygo calon llawer o strydoedd mawr yn ein trefi a’n dinasoedd.
“Felly a all y Prif Weinidog ddweud wrth y Tŷ beth mae’n mynd i’w wneud nawr i ddiogelu swyddi a phensiynau pawb y mae hyn yn effeithio arnynt?”
Atebodd Boris Johnson: “Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer strydoedd mawr y wlad hon gyda’n cronfa strydoedd mawr gwerth £1 biliwn.”
Beirniadodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer am ymatal ar bleidlais cyfyngiadau haen Covid-19.
Cafodd Aelodau Seneddol Llafur gyfarwyddyd i ymatal ar y bleidlais i ddisodli’r cyfyngiadau symud cenedlaethol gyda system haen, er bod 15 wedi pleidleisio yn erbyn y rheoliadau.
“Pan fydda i’n ymatal rwy’n dod i’r Tŷ ac yn esbonio, pan fydd y Prif Weinidog yn ymatal mae’n rhedeg i ffwrdd i Afghanistan ac yn rhoi bil o £20,000 i’r trethdalwr,” meddai Syr Keir Starmer wrth ymateb.
Roedd yn cyfeirio at ddigwyddiad yn 2018, lle collodd Boris Johnson bleidlais ar gynlluniau dadleuol ar gyfer trydedd redfa yn Heathrow gan ei fod yn ymweld ag Afghanistan yn ei rôl fel ysgrifennydd tramor.
“Captain Hindsight” bellach yn “General Indecision”
Aeth Syr Keir Starmer ymlaen: “Mae dros 200,000 o swyddi manwerthu wedi’u colli eleni. Dyna 200,000 o unigolion a’u teuluoedd, mae 20,000 o siopau wedi’u cau ar ein stryd fawr ac mae hynny cyn y cyfyngiadau diweddaraf.
“Nawr, rwy’n amau pe byddem ni wedi gweld y raddfa honno o golledion swyddi mewn unrhyw sector arall, byddai llawer mwy o weithredu eisoes wedi bod.
Atebodd Boris Johnson: “Rydym wrth gwrs yn cefnogi pob swydd y gallwn, yn ogystal â chefnogi pob bywyd a bywoliaeth gyda rhaglen gwerth £200 biliwn.”
Aeth Boris Johnson ymlaen i feirniadu Syr Keir eto, gan ddweud: “Pan ddaeth hi’n fater o amddiffyn pobol y wlad hon rhag y coronafeirws ar adeg dyngedfennol, dywedodd wrth ei filwyr i ymatal.
“Mae Capten Hindsight yn codi’n gyflym i fyny’r rhengoedd ac mae wedi dod yn Genral Indecision.”
Yr SNP yn rhybuddio’r Llywodraeth i beidio “cefnu” ar bobol mewn angen
Anogodd Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, weinidogion i weithio ar becyn cymorth “ystyrlon” i sicrhau nad yw’r Llywodraeth yn “cefnu” ar bobol mewn angen cyn y Nadolig.
Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin: “Mae yno filiynau o bobol sydd heb dderbyn yr un geiniog o gefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ddoe fe wnes i gyfarfod ag Excluded UK sy’n cynrychioli nifer helaeth o’r bobol hyn.
“Hyd yma, mae wedi bod yn fethiant llwyr gan y Llywodraeth hon yn y Deyrnas Unedig ac mae’r Prif Weinidog wedi bod ar goll.
Ychwanegodd: “A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo heddiw i gyfarfod a gweithio gyda Excluded UK ar becyn ystyrlon o gefnogaeth, neu a yw’r Prif Weinidog yn mynd i gefni ar y bobol hyn dair wythnos o’r Nadolig?”
“Nid yw’r Llywodraeth wedi cefnu ar neb ac rydyn ni’n parhau i gefnogi pobol,” meddai’r Prif Weinidog
“Yn ogystal â’r gefnogaeth rwyf eisoes wedi’i chyhoeddi, rydym wedi cyhoeddi bron i £400 miliwn i gefnogi plant sy’n agored i niwed a’u teuluoedd drwy’r gaeaf, rydym wedi cynyddu Credyd Cynhwysol fel yr wyf newydd ei grybwyll i’r Tŷ, gwnaethom gynyddu lwfans tai lleol, ac rydym wedi darparu biliynau yn fwy i awdurdodau lleol i helpu’r rhai sy’n anodd eu cyrraedd.”